Cymorth cyllidebu

Sut mae modd imi gael cyngor neu gwybodaeth cyfrinachol am ddim?

Gallwch gael gwybodaeth ariannol am ddim a chyfrinachol trwy gysylltu gyda’n swyddogion cynhwysiant ariannol isod.

Gallwch gael mynediad i help trwy:

  • Cyllidebu
  • Cynilo
  • Arbed arian ar filiau ynni
  • Cyngor ar ddyledion bach
  • Brwydro yn erbyn ôl-ddyledion
  • Hawl budd-daliadau

Cymorth ariannol

Gall fod yn anodd rheoli’r holl filiau a thaliadau gwahanol yn ein bywydau, er hynny mae canlyniadau peidio â thalu rhai biliau cyn eraill fod yn fwy difrifol.

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau wedi datblygu cyfrifiannell ar gyfer eich helpu i flaenoriaethu eich biliau, ac i ddidoli eich biliau a thaliadau yn y drefn gywir a dweud wrthych beth sydd angen i chi ei wneud os ydych yn cael trafferth talu cyn i chi fethu taliad. Am fwy o wybodaeth, ewch i: Help gyda biliau a thaliadau gan MoneyHelper.

Mae yna hefyd rai teclynnau a chyfrifianellau eraill a all eich helpu i gyllidebu, cynilo a thorri’n ôl ar gostau. Gallant eich helpu i ddod o hyd i gynghorwyr diduedd, darganfod faint y gallai fod gennych ar ôl ymddeol, dweud wrthych faint o arian ychwanegol rydych ei angen ar gyfer eich teulu a llawer mwy. Am fwy o wybodaeth am yr offer a’r cyfrifianellau, ewch i: Offer a chyfrifianellau (moneyhelper.org.uk)

Talu eich bil ynni

Mae gan lawer o gwmnïau ynni gronfeydd cymorth a grantiau caledi ar gael i gwsmeriaid sy'n cael trafferth gyda'u biliau ynni. Os yw preswylydd mewn dyled i'w gyflenwr ynni, efallai y gallant gael grant gan y cyflenwr i'w helpu i dalu'r costau.

Os na all preswylwyr gael grant gan y cyflenwr, efallai y gallant gael grant gan Ymddiriedolaeth Ynni British Gas. Mae’r grantiau hyn ar gael i unrhyw un – nid oes rhaid i chi fod yn gwsmer British Gas i fod yn gymwys.

Efallai y bydd preswylwyr hefyd yn gallu cael mynediad at grantiau lleol. 

Gofyn am ragor o wybodaeth

Canolfan Cyngor ar Bopeth

Gallwch hefyd gysylltu â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Yno, gallant roi cyngor cyfrinachol, annibynnol am ddim i’ch helpu i ddatrys eich problemau cyfreithiol ac ariannol, neu broblemau eraill. I ddod o hyd i’ch canolfan agosaf, ewch at y wefan a theipio eich cod post i mewn.

Gwasanaeth Cynghori Ariannol

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn helpu pobl i reoli eu harian. Maent yn gwneud hyn yn uniongyrchol drwy ei gwasanaeth ariannol ei hunain sy’n ddiduedd ac am ddim. Hefyd maent yn gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill i helpu pobl i wneud y mwyaf o'u harian. Mae'r gwasanaeth annibynnol, a sefydlwyd gan y llywodraeth. Cofiwch fod rhent yn ddyled a ddylai ei flaenoriaethu, gall peidio ei dalu roi eich cartref mewn perygl. I gael cymorth a chefnogaeth ar sut i gyllidebu ar gyfer eich rhent defnyddiwch Gynlluniwr Gyllideb ar-lein rhad ac am ddim.