Achrediadau

Safon Buddsoddwyr mewn Pobl

Cadwodd Newydd ei Gwobr Buddsoddwyr mewn Pobl ym mis Medi 2019. Mae’r safon ansawdd hynod bwysig hon yn achrediad a gydnabyddir yn rhyngwladol ac fe’i cynhelir gan 14,000 o sefydliadau ledled y byd. Mae’r safon yn diffinio beth sydd ei angen i arwain, cynnal a rheoli pobl yn dda er mwyn cael canlyniadau cynaliadwy. Mae cyflawni’r safon yn rhoi sicrwydd i ni ein bod ymysg goreuon y byd pan mae’n dod yn fater o reoli pobl. Rydym wedi bod yn sefydliad Buddsoddwyr mewn Pobl am 22 mlynedd ac rydym yn falch iawn o'r ymrwymiad parhaus hwn i'n pobl. Er mwyn cadw'r wobr, rydym wedi cwrdd â 9 ffactor eang sy’n cynnwys grymuso a chynnwys pobl, a thrwy hynny gefnogi pobl i sylweddoli eu potensial llawn a’u cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

Y 100 Cwmni Gorau

Fe gymerodd Newydd rhan yn arolwg meincnodi Best Companies yn 2019. Mae’r arolwg yn mesur ar ba lefel mae ein pobl yn ymgysylltu. Mae lefel uchel o ymgysylltu yn ddangosydd pwerus fod y bobl sy’n ein sefydliad yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u hysgogi. Cawsom ein graddio yn gyflogwr statws 2*, ac fe wnaethom ddathlu bod yn y 30ain safle yn y 100 cwmni nid-er-elw gorau i weithio yn y DU yn 2019. Mae hyn yn gyflawniad gwych ac rydym yn parhau i weithio gyda'n pobl i wneud Newydd yn lle hyd yn oed yn well i weithio ynddo.

Safonau Rheoli Tai Cymru ar gyfer Mynd i’r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Dyfarnwyd i Newydd safon Llywodraeth Cymru ar gyfer ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ym mis Ionawr 2013. Mae staff ac aelodau o’r Is-grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi gweithio’n galed i sicrhau bod gwasanaethau Newydd yn canolbwyntio ar:

  • Ymrwymiad ac atebolrwydd
  • Grymuso preswylwyr a thawelu eu meddyliau
  • Ataliaeth ac ymyrraeth gynnar
  • Cymorth i fynd i’r afael ag achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Gwasanaethau a chymorth wedi’u teilwra i ddioddefwyr a thystion
  • Gwarchod ac annog cyfrifoldeb cymunedol

Gwobr QED

Rydym wedi derbyn y marc safon cydraddoldeb ac amrywiaeth ar gyfer landlordiaid cymdeithasol yn 2022 - adnabyddir y wobr fawr ei bri yn genedlaethol.

Datblygwyd Gwobr QED gan yr elusen dai Gymreig Tai Pawb ac mae hi’n darparu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer gwella effaith cydraddoldeb ac amrywiaeth sefydliadau. Dyfernir y wobr gan banel annibynnol, ac mae’n cymryd i ystyriaeth feysydd strategol megis llywodraethu, arweinyddiaeth a diwylliant, yn ogystal â darpariaeth gwasanaethau i gwsmeriaid, gan gynnwys mynediad a chynnwys tenantiaid. Mae’r wobr yn cynnwys archwiliad blynyddol dros dair blynedd, lle bydd Tai Pawb yn darparu cefnogaeth barhaus ac yn monitro cynllun gweithredu Newydd er mwyn sicrhau ein bod yn adeiladu ar ein cynnydd yn y maes hwn ac yn integreiddio cydraddoldeb ac amrywiaeth i mewn i bob agwedd o’n gwaith.

Gweithredoedd nid Geiriau

Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol o’r pwysigrwydd mwyaf i Newydd, ac yn 2020, llofnodwyd addewid ‘Gweithredoedd Nid Geiriau’ Tai Pawb, gan addo ein hymrwymiad i weithredu ar y canlynol:

  1. Lliniaru effaith Covid-19 ar staff a chymunedau Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
  2. Gwella amrywiaeth ethnig y Bwrdd a’r staff ar bob lefel
  3. Cyfathrebu ac ymgysylltu
  4. Datblygu diwylliant cynhwysol

Ein nod yw helpu i ddod o hyd i atebion i ddod â gwahaniaethu i ben, ac i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu Pobl Ddu, Asiaidd a grwpiau o Leiafrifoedd Ethnig, gan ein bod am i’n tenantiaid deimlo’n ddiogel yn eu cartrefi a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu cymunedau.

Dyma ein cynllun gweithredu, a'n cynnydd hyd yma.

Cynllun Teithio Gwyrdd

Mae’r Cynllun Teithio hwn yn gynllun gweithredu rhesymegol a gynlluniwyd er mwyn helpu sefydliadau i roi mesurau ar waith a fydd yn lleihau’r angen i bobl deithio’n ôl a blaen o safle penodol. Mae hefyd yn helpu i hwyluso a hybu’r gweddill i deithio mewn ffyrdd mwy cynaliadwy drwy hybu ffyrdd amgen fel cerdded, beicio, a thrafnidiaeth gyhoeddus. Cynlluniwyd ein Cynllun Teithio Gwyrdd i amlinellu beth mae ein grŵp yn ei ddarparu ar hyn o bryd, a’r hyn y byddwn yn hoffi ei gyflawni yn y dyfodol.  Rydym am hybu dewisiadau teithio sy’n wyrddach a glanach, ac am leihau effaith amgylcheddol ein teithio a’n trafnidiaeth wrth hybu ein staff i ddilyn ffordd o fyw sioncach ac iachach ar yr un pryd. Rydym wedi ennill Gwobr Aur Cynlluniau Teithio Cymru yn 2016, gwobr a gyflwynwyd gan Sustrans.

Visibly Better

Visibly Better Cymru yw cynllun achredu RNIB ar gyfer darparu tai â chymorth yng Nghymru. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â RNIB i gyrraedd safon Visibly Better ym mhob un o’n Cynlluniau Byw’n Annibynnol. Mae Visibly Better yn helpu darparwyr tai â chymorth i sicrhau bod eu heiddo, eu gwasanaethau a’u staff yn gallu ateb gofynion y boblogaeth hon sy’n tyfu, mewn ffordd syml a chost effeithiol, ac mae’n sicrhau bod ein cartrefi a’r gwasanaethau cysylltiedig yn hygyrch i’r bobl hynny sydd ag anawsterau golwg neu sydd wedi colli eu golwg.

Adroddiad ar Gynaliadwyedd ar gyfer Tai Cymdeithasol – mabwysiadu'r strategaeth yn gynnar

Mae ein strategaeth hirdymor ar gyfer cynaliadwyedd yn dangos ein bod yn gwerthfawrogi maint yr heriau sydd yn ein hwynebu, o ôl-osod dros dair mil o gartrefi i fod yn rhai di-garbon, i archwilio ffyrdd newydd o godi arian sylweddol i adeiladu mwy o gartrefi iawn yn y llefydd iawn. Mae paratoi’r adroddiad hwn wedi bod yn allweddol i’n helpu i nodi’r bylchau yn ein taith i gynaliadwyedd. Mae ein Hadroddiad Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu yn ymdrin â 12 thema allweddol a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar sut y byddwn yn cyflawni ein hamcanion cynaliadwyedd o fewn cynllun corfforaethol 2022 - 2027.

Gwobr Llythrennedd Carbon

Rydym wedi'n hachredu fel Sefydliad Ardystiedig Efydd Llythrennedd Carbon gyda chamau ar waith i gyrraedd ein dyfarniad arian. Mae staff yn cael eu hyfforddi'n fewnol ar y pwnc hwn gyda'r nod o ddarparu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r effaith y mae gweithgareddau dynol yn ei chael ar allyriadau carbon deuocsid a newid yn yr hinsawdd. Mae'n cynnwys dysgu am ffynonellau allyriadau carbon, y wyddoniaeth y tu ôl i newid yn yr hinsawdd, a strategaethau effeithiol ar gyfer lleihau ôl troed carbon. Mae hyn yn rhoi'r gallu i staff wneud penderfyniadau gwybodus a chymryd camau sy'n cyfrannu at leihau allyriadau carbon, ar lefel unigol ac ar lefel sefydliadol.