Gowbrau a buddion

Mae ein pobl ni yn gwneud gwaith da, felly rydym am ofalu amdanynt a gwobrwyo eu gwaith caled. Mae mor syml â hynny. Dyna pam rydyn ni am sicrhau bod gennym ni becyn buddion gwych, yn ogystal â chreu lleoliad lle mae’n staff yn teimlo’n hapus ac yn mwynhau’r hyn maent yn ei wneud. Credwn fod cael staff bodlon yn golygu cael busnes gwell, felly rydym yn sicrhau eu bod yn deall beth rydyn ni’n ceisio ei gyflawni a sut y gallent ein helpu i gyrraedd y nod.

Felly, os dewch chi’n rhan o gymuned Newydd, cewch fwynhau set eang o fuddion gan gynnwys:

Pensiwn
Gallwch ymuno â Chynllun Pensiwn Tai Cymdeithasol (SHPS) y Grŵp, sy’n gynllun cyfraniadau diffiniedig (DC). Mae’r cyflogwr a’r gweithiwr yn cyfrannu ato, a’r gyfran yn seiliedig ar ganran o’ch cyflog. Mae talu i mewn i’r pensiwn yn lleihau faint o dreth ac o gyfraniad yswiriant gwladol rydych chi’n ei dalu.     

Yswiriant bywyd
Os ydych yn aelod o SHPS, mae eich teulu neu ddibynyddion yn cael eu diogelu os byddwch yn marw mewn gwasanaeth, gan gynnwys cyfandaliad o dair gwaith eich tâl terfynol, yn ogystal â phensiwn yn cael ei dalu i’ch goroeswyr ac i hyd at bedwar o blant dibynnol.

Gwyliau
Mae’n bwysig cael amser i ffwrdd o’r gwaith er mwyn cael ymlacio a threulio amser gyda’ch teulu a’ch ffrindiau. Bydd gennych hawl i gael gwyliau hael, sy’n cynyddu gyda hyd gwasanaeth, yn ogystal â gwyliau banc. Gallwch hefyd brynu a gwerthu hyd at bum diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata), yn amodol ar gymeradwyaeth.

Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
Rydym yn cynnig nifer o drefniadau gweithio hyblyg, lle mae modd, er mwyn eich helpu i wneud y defnydd gorau o’ch amser, yn ogystal ag i’ch galluogi i gydbwyso gwaith â’ch buddiannau neu ymrwymiadau cartref. Mae’r rhain yn cynnwys opsiynau gweithio ystwyth cwbl hyblyg gan gynnwys gweithio gartref yn dibynnu ar y rôl, gweithio’n rhan-amser, gweithio yn ystod y tymor, ac oriau cywasgedig. Rydym hefyd yn rhoi ystyriaeth i geisiadau am gyfnod sabothol i deithio neu astudio.

Hyfforddi, Datblygu a Thwf
Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi ynoch chi, ac mae gennym gyllideb hyfforddi bwrpasol ym mhob adran i helpu i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol er mwyn i chi allu cyflawni eich rôl i safon uchel, yn ogystal â’ch galluogi i hogi’r sgiliau hynny ymhellach.

Gallwn hefyd ddarparu cefnogaeth ariannol a’ch rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod i fynychu cwrs addysg bellach perthnasol, neu i ennill cymwysterau proffesiynol sydd wedi cael eu nodi fel rhan o’ch datblygiad gyrfaol.

Ffioedd aelodaeth broffesiynol
Os ydych yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol, byddwn yn cwrdd â’r ffioedd cofrestru, ac aelodaeth flynyddol. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer un aelodaeth broffesiynol i bob gweithiwr.

Budd-daliadau mamolaeth a thadolaeth
Yn ogystal â budd-daliadau mamolaeth statudol, mae gan famau beichiog sydd â mwy na dwy flynedd o wasanaeth hawl i 20 wythnos o dâl llawn. Mae gan ddarpar dadau hawl i dair wythnos o absenoldeb tadolaeth â thâl. Mae’r hawliau yn berthnasol hefyd i rieni sy’n mabwysiadu.

Gofalu amdanoch
Mae ein cynllun arian iechyd yn darparu taliadau tuag at y gost o driniaethau gofal iechyd bob dydd, fel gofal deintyddol, optegol a ffisiotherapi, ac mae’r holl amodau sydd eisoes yn bodoli hefyd yn cael eu cwmpasu. Mae eich polisi hefyd yn rhoi mynediad i chi at linell gymorth gyfrinachol sy’n darparu cymorth 24-awr, saith diwrnod yr wythnos, i roi cyngor meddygol, cyngor ar iechyd a llesiant, yn ogystal â chynghori dros y ffôn a mynediad at gwnsela wyneb yn wyneb.

Rydym yn darparu cymorth ychwanegol ar adegau o angen, megis marwolaeth perthynas agos neu ddibynnydd. Efallai y caniateir hyd at ddeg diwrnod o absenoldeb tosturiol â thâl.

Mae pawb sy’n defnyddio uned arddangos weledol (VDU) yn gallu hawlio prawf llygaid am ddim. Gall rhai aelodau o staff hawlio am lwfans tuag at gost sbectol: hyd at £50 am bâr sylfaenol o sbectolau neu hyd at £150 os oes angen lensys arbennig.

Rydym yn talu am gost y pigiad ffliw blynyddol.

Mae gennym gynllun aberthu cyflog, Beicio i’r Gwaith, sy’n eich galluogi i brynu beiciau ac offer beicio ar gyfradd is gan fod y gost yn cael ei thynnu o’ch cyflog misol a byddwch yn talu llai o dreth incwm ac yswiriant gwladol.

Eich lles

Mae Newydd wedi ymrwymo i greu diwylliant iach yn y gweithle ac i hyrwyddo lles cadarnhaol i'n holl staff. Mae gennym grŵp FyLles mewnol sy'n cynnwys gwirfoddolwyr staff o bob adran ar draws Newydd. Ein gweledigaeth yw creu diwylliant yn y gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod wedi'u grymuso a'u cefnogi i flaenoriaethu eu hiechyd. Mae hyn yn berthnasol i'ch iechyd corfforol ac eich iechyd meddwl. Mae'r Grŵp wedi lansio mentrau amrywiol gan gynnwys ein Cynllun Arian Iechyd, ein campfa staff sydd ar gael i'w ddefnyddio ar y safle, nawdd i grwpiau chwaraeon, a hyrwyddo sgyrsiau agored ynghylch iechyd meddwl yn y gweithle a thu hwnt. Rydym hefyd yn cynnal dau ddiwrnod lles pwrpasol bob blwyddyn lle gall yr holl staff ymuno â gweithgareddau hwyliog amrywiol sy'n cefnogi lles cadarnhaol, gan hefyd rhoi’r cyfle i staff i dreulio rhywfaint o amser gyda chydweithwyr.

Digwyddiadau cymdeithasol staff

Ein nod yw cynnal dau ddigwyddiad cymdeithasol staff blynyddol sydd fel arfer yn cael eu cynnal mewn lleoliad allanol. Mae'r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i bawb ddadflino, diffodd o'r gwaith, a threulio amser i ddal i fyny a chymdeithasu gyda chydweithwyr.

Pethau am ddim
Rydym yn darparu te a choffi yn rhad ac am ddim, felly fe gewch cymaint o baneidiau ag y dymunwch!

Mae staff ein swyddfeydd yn cael parcio am ddim.

Sut brofiad yw gweithio i Newydd?

Gwyliwch y fideo isod er mwyn gweld y merched arbennig yn Newydd sy’n gweithio yn ein hadrannau cynnal a chadw, datblygu ac adfywio. Maen nhw’n rhannu straeon sy’n ysbrydoli a chyngor gwerthfawr, ac yn herio stereoteipiau yn y diwydiant adeiladu!