Lleithder ac Anwedd

Y tri math mwyaf cyffredin o leithder yw lleithder codi, lleithder treiddiol a lleithder arwyneb, a elwir yn fwy cyffredin yn anwedd.  Er mwyn canfod y ffordd orau o drin y lleithder yn eich cartref, bydd angen i chi gyfrifo pa un o'r rhain sydd gennych (Lleithder codi, lleithder treiddiol neu anwedd). Isod mae canllaw i ddeall pa fath o leithder sy'n bresennol yn eich cartref a'r rheswm dros y lefelau lleithder uwch.

Lleithder Codi
Mae lleithder codi yn cael ei achosi gan ddŵr daear yn symud i fyny trwy wal. Mae hyn fel arfer yn cael ei atal rhag achosi difrod gan rwystr a elwir yn gwrs atal lleithder. Gellir gweld hwn fel stribed du plastig llorweddol ar lefel isel ar y wal allanol (yn nodweddiadol i'w weld ar eiddo a adeiladwyd o 1960 ymlaen). Mae gan eiddo hŷn (heb y stribed du) gwrs atal lleithder ond maent yn dueddol o fethu dros amser.

Lleithder Treiddiol
Mae lleithder treiddiol yn cael ei achosi gan ddŵr yn gollwng trwy waliau a/neu nenfydau. Gellir gweld y math hwn o leithder mewn gwahanol rannau o eiddo ar lefel uchel yn y rhan fwyaf o achosion. Mae lleithder treiddiol fel arfer yn cael ei achosi gan broblemau strwythurol mewn adeilad, megis cwteri neu doi diffygiol. Neu gall fod o ganlyniad i bibellau'n gollwng.

Mae lleithder treiddiol yn aml yn ymddangos trwy fannau llaith ar waliau, nenfydau neu loriau, a all dywyllu pan fydd hi'n bwrw glaw neu pan fydd tapiau'n rhedeg.

Anwedd
Mae lleithder yn yr aer ar bob adeg, hyd yn oed os na allwch ei weld.  Anwedd yw'r math mwyaf cyffredin o leithder ac mae'n cael ei achosi gan aer llaith yn cyddwyso ar waliau.  Mae'n broblem gaeaf yn bennaf, oherwydd ar yr adeg hon o'r flwyddyn mae waliau'n llawer oerach na'r aer y tu mewn. Pan fydd yr aer yn oeri, ni all ddal y lleithder sydd wedyn yn cyddwyso ar arwynebau oer fel ffenestri, drysau a hyd yn oed waliau.

Gall anwedd gael ei waethygu gan awyru gwael, a gwresogi sy'n dod ymlaen ac i ffwrdd, gan fod hyn yn caniatáu i aer cynnes, llaith gyddwyso.

Mae’n bosibl y byddwch yn sylwi ar ddiferion dŵr ar ffenestri neu waliau, yn gweld llwydni tywyll yn ymddangos a/neu’n sylwi ar arogl annymunol.

Beth yw cyddwysiad?

Mae yna wastad leithder yn yr aer, hyd yn oed os na fedrwch ei weld. Pan fydd yr aer yn mynd yn oerach, nid yw’n medru dal y lleithder, sydd wedyn yn cyddwyso ar arwynebau oer fel ffenestri, drysau a hyd yn oed wal.

Beth sy'n achosi cyddwyso?

  1. Gormod o leithder yn cael ei gynhyrchu yn eich cartref
  2. Dim digon o awyru
  3. Arwynebau oer
  4. Tymheredd eich cartref

Sut i leihau cyddwysiad?

  1. Awyrwch eich cartref drwy gydol y flwyddyn drwy agor ffenestri, hyd yn oed ychydig bach, a sicrhau eich bod yn defnyddio unrhyw ffaniau echdynnu.
  2. Os oes lleithder ar eich ffenestri yn y bore sychwch hwn i ffwrdd gyda phapur cegin neu rywbeth tebyg.
  3. Gwresogwch yn gywir. Mae’n well cadw’r gwres ymlaen ar lefel isel pan mae hi’n oer gan fod hyn yn gwella cylchrediad aer a sy'n lleihau cyddwysiad.
  4. Defnyddiwch drapiau lleithder crisialau – gellir eu prynu’n rhad ac yn lleol

Awgrymiadau cyflym am sut i leihau cyddwysiad

  1. Peidiwch â sychu dillad ar reiddiaduron
  2. Cadwch y caead ar sosbenni wrth goginio
  3. Wrth ymdrochi, rhedeg y tap oer yn gyntaf
  4. Sicrhewch fod peiriannau sychu dillad wedi'u hawyru'n iawn
  5. Wrth goginio neu ymolchi, cadwch ddrysau cegin ac ystafell ymolchi ar gau

Beth yw llwydni du?

Sbôr yw llwydni du sy’n tyfu mewn mannau lle mae lleithedd gormodol, lleithder uchel a diffyg awyr. Mae’n gadael arogl tamp a llwydaidd, ac os nas trinnir gall fod yn niweidiol i iechyd pobl.

Lle ceir hyd iddo?

Ceir hyd iddo fel arfer mewn corneli ystafelloedd, y tu ôl i ddodrefn, ac o gwmpas ffenestri a drysau. Gall hefyd fod yn bresennol y tu fewn i gypyrddau ar ddillad. Ceir hefyd arwyddion o lwydni du ar deils a thapiau mewn ystafelloedd ymolchi a cheginau.

Atal a thrin llwydni du

  • Mae llwydni du angen lleithder i dyfu. Mae’n bwysig lleihau’r lleithder a gynhyrchir ac awyru eich cartref yn dda.
  • Sychwch unrhyw leithder oddi ar ddrysau, ffenestri a silffoedd ffenest bob bore i atal llwydni rhag tyfu, a defnyddiwch hydoddiant gwrthlwydni a ellir ei brynu’n rhad ac yn lleol.
  • Peidiwch â rhoi dodrefn a chypyrddau yn erbyn waliau oherwydd gall hyn atal cylchrediad aer.
  • Glanhewch unrhyw arwyddion o lwydni du gyda hydoddiant gwrthlwydni er mwyn ei atal rhag tyfu. Nodwch na wnaiff cannydd ladd y sborau’n llwyr, gan adael iddynt ail-dyfu.

Clirio llwydni 

Wrth ddelio â llwydni, dylai diogelwch wastad fod yn flaenoriaeth. Gall gwasgaru’r llwydni o gwmpas eich cartref wneud y broblem yn waeth. Drwy ddilyn y camau isod, gallwch glirio llwydni’n effeithiol o’ch cartref a chadw eich hunain a’ch teulu’n ddiogel.  

Er mwyn sicrhau eich diogelwch, dilynwch y cyfarwyddiadau ar labeli’r cynnyrch gan y gall y rhain amrywio.  

Mae yna nifer o gamau pwysig y dylech eu cymryd cyn dechrau’r broses o glirio llwydni:

  1. Dylech wastad ddefnyddio bioladdwyr yn ddiogel a darllen y label a’r wybodaeth cynnyrch cyn dechrau eu defnyddio.  
  2. Profwch ar ardal anamlwg i ddechrau.  
  3. Rydym yn argymell eich bod yn gwisgo menig rwber/plastig.  
  4. Mae’n syniad da gorchuddio’r llawr o dan yr ardal rydych yn ei glanhau er mwyn dal unrhyw lwydni sy’n cwympo, a gallwch waredu hyn yn syth. 
  5. Mae hi’n bwysig awyru’r ystafell wrth glirio llwydni. Agorwch ffenest neu ddrws allanol er mwyn gadael i sborau llwydni ddianc. Bydd hyn yn helpu rhwystro’r llwydni rhag ymledu i rannau eraill o’ch cartref. 
  6. Pan ddaw hi i gynhyrchion glanhau, y dewis gorau yw defnyddio chwistrellydd gwaredu llwydni; cewch hyd i chwistrellyddion ychwanegol yn hawdd ar-lein neu mewn siopau nwyddau metel neu archfarchnadoedd. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y cynnyrch clirio llwydni – mae pob cynnyrch yn amrywio. 
  7. Unwaith mae gennych chi’r cynnyrch glanhau, rhowch e ar yr ardal sydd wedi’i heffeithio a gadewch iddo weithio. Gallwch ddefnyddio cadach un-tro neu hances bapur i sychu unrhyw weddillion i ffwrdd.  
  8. Wedi i chi orffen glanhau, sicrhewch fod yr ardal wedi sychu’n llwyr cyn cau’r ffenest. 

Edrychwch ar ein fideos defnyddiol isod i atal anwedd yn eich cartref.

Darllenwch ein canllaw am gyddwysiad yma.

Cysylltwch cyn gynted â phosib am gyngor ar lwydni neu gyddwysiad yn eich cartref.