Cyngor Coronafirws
Mae coronafirws yn effeithio ar lawer o'n tenantiaid, rydym wedi llunio rhywfaint o wybodaeth ac arweiniad i'ch helpu chi trwy gydol yr amser hwn.
Mae Newydd yn deall y gallech chi gael problemau wrth dalu eich rhent. Efallai y byddwch hefyd angen cymorth cyllideb ar gyfer y costau mwyaf hanfodol a phwysig yn eich bywyd fel rhent, bwyd a gwres. Rydym ni yn gallu eich helpu os ydech chi yn cael trafferth talu am y pethau hyn. Mae llawer o wybodaeth ar gael yn yr adrannau isod, ond gallwch hefyd gael gyfarwyddyd ariannol am ddim ar unrhyw adeg, gorau po byddwch yn cael cefnogaeth gennym ni y mwyaf y gallwn ni helpu. Gallwn sicrhau eich bod yn derbyn y budd-daliadau cywir a chael gostyngiadau a'r pethau fel treth y cyngor a biliau dŵr ayyb.