Benthycwyr arian didrwydded
Peidiwch ag ystyried defnyddio benthycwyr arian didrwydded. Efallai daw’r amser pan na fyddwch yn gallu gwneud y taliad i fenthyciwr arian didrwydded, efallai bydd hyd yn oed yn eich bygwth... nid ydynt byth rywsut yn llwyddo i egluro’r cyfraddau llog. Os ydych yn poeni am fenthyciwr arian yn eich ardal chi neu’n cael eich bygwth gan fenthyciwr arian, gallwch roi gwybod amdano i Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru sy’n cynnal llinell gymorth gyfrinachol 24 awr ar 0300 123 33 11.