Cyfrifoldeb pwy?
Gan mai ni yw eich landlord, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i wneud gwaith trwsio penodol pan fydd ei angen. Wrth i’r gyfraith newid, efallai hefyd y bydd cyfrifoldeb am waith trwsio penodol yn newid. O ganlyniad, efallai y byddwn wedi trwsio rhai pethau yn y gorffennol ond, oherwydd newidiadau yn y gyfraith, mae’n bosibl mai chi sy’n gyfrifol am eu trwsio erbyn hyn, neu i’r gwrthwyneb.
Wrth i amser fynd heibio, disgwyliwn y bydd traul arferol yn digwydd i’ch cartref. Fodd bynnag, os bydd angen trwsio rhywbeth yn eich cartref oherwydd esgeulustod neu ddifrod naill ai gennych chi neu eich ffrindiau neu eich teulu, byddwn yn disgwyl i chi wneud unrhyw waith trwsio angenrheidiol. Os bydd angen trwsio rhywbeth oherwydd eich esgeulustod neu eich difrod chi, mae’n bosibl y byddwn yn rhoi rhybudd i chi wneud y gwaith, ac weithiau efallai y byddwn yn ei drwsio ar eich rhan ac yna’n gofyn i chi dalu’r gost. Fodd bynnag, ar rai adegau, efallai y byddwn yn trwsio rhywbeth heb fod yn gyffredinol gyfrifol amdano. Bydd hyn fel arfer yn dibynnu ar eich amgylchiadau, a’r enw ar hwn yw gwaith trwsio dewisol.
Eich cyfrifoldebau
- Chi sy'n gyfrifol am gadw'ch cartref mewn cyflwr rhesymol, ceisio datrys problemau bach ac am yswirio cynnwys eich cartref.
- Disgwylir i chi gymryd rhagofalon rhesymol i atal difrod i'r eiddo gan dân, rhew, pibellau dŵr yn byrstio neu blocio draeniau a sinciau.
- Rydym yn dibynnu arnoch chi i roi gwybod am unrhyw ddiffygion yn brydlon ac i ddarparu mynediad i'n contractwyr i sicrhau y gellir gwneud y gwaith atgyweirio o fewn yr amserlen y cytunwyd arni.
- Yn olaf, cofiwch y bydd rhywun arall yn symud i mewn i'ch cartref os byddwch byth yn penderfynu gadael. Gwnewch yn siŵr bod yr eiddo'n lân, yn daclus, wedi'i addurno'n rhesymol a bod eich holl eiddo diangen wedi'i glirio, gan gynnwys unrhyw rai yn y to.
Ein rhwymedigaeth
- Mae'n ofynnol i ni gadw strwythur a thu allan eich cartref a'r adeilad y mae wedi'i leoli ynddo mewn cyflwr da.
- Rydym hefyd yn ymrwymo i gadw gosodiadau mewn cyflwr da ac yn gweithio'n iawn ar gyfer cyflenwi dŵr, nwy a thrydan, ar gyfer glanweithdra ac ar gyfer gwresogi ystafelloedd.
- Yn achos fflatiau, byddwn yn cymryd gofal rhesymol i gadw mynedfeydd cyffredin, cynteddau, grisiau, lifftiau, tramwyfeydd, llithrennau sbwriel ac unrhyw rannau cyffredin eraill mewn cyflwr rhesymol.