Helpwch ni gadw'ch cartref yn ddiogel

Mae'n hanfodol eich bod yn caniatáu i'n staff gael mynediad i'ch cartref i ddarparu gwaith cynnal a chadw pwysig ar unedau nwy a thrydanol.

Hysbysiad o waith
Fe’ch hysbysir chi o’r gwaith ymlaen llaw mewn ysgrifen. Yna, bydd contractwr yn trefnu apwyntiad gyda chi. Bydd hwn hefyd wedi ei gadarnhau mewn ysgrifen.

Peryglon gwrthod mynediad
Gall gwall trydannol, neu broblem gyda’r nwy, gael canlyniadau difrifol. Gall tanau fod yn angheuol, ac mewn tai teras neu fflatiau, gall tân mewn un eiddo effeithio ar un arall.

Sgileffeithiau
Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i gadw'ch cartref yn ddiogel. Os ydych chi wedi gwrthod mynediad 3 gwaith, bydd rhaid i ni ddarparu rhybudd o feddianu eich cartref. Gallech chi golli eich cartref. Gwnewch yn siŵr nad yw eich gweithredoedd yn arwain at hyn

Os oes angen ail-drefnu
Rydym yn deall bod pethau gallu newid ar fyr-rybudd. Os na fyddech chi adref i ganiatáu mynediad, rhowch wybod i ni.

Cysylltu gyda ni
Mae nifer o ffyrdd i gysylltu gyda ni:

Fy Negeseuon ar Fy Newydd
Ebost: enquiries@newydd.co.uk
Ffôn: 0303 040 1998

Diolch am eich cydweithrediad.