Symud i fewn
Croeso i'ch cartref Newydd
Yma, cewch ddod o hyd i'r holl wybodaeth bydd angen arnoch i helpu gynnal eich cartref. Defnyddiwch ddolenni yr adran hon i ddarganfod gwybodaeth am eich biliau, hawl i gadw anifeiliaid anwes, beth sy'n cyfrif fel atgyweiriad argyfwng, addasu eich cartref a mwy.
Dyma ein cyngor ni ar gyfer pan rydych wedi symud i fewn.
- Yn gyntaf, rydym ni'n awgrymu cofrestru ar gyfer cyfrif Fy Newydd. Fedrwch ddefnyddio'r cyfrif i adrodd gwaith trwsio, talu'ch rhent ac anfon negeseuon i ni 24-awr y dydd.
- Nesaf, mae'n holl bwysig i gysylltu â'ch darparwyr nwy, trydan a dŵr i adael nhw wybod eich bod wedi symud i mewn.
- Os ydych yn bwriadu gwylio teledu, gan gynnwys defnyddio gwasanaethau megis BBC iPlayer neu ITV Hub, bydd angen trwydded deledu arnoch chi.
- Mae'n syniad da i amddiffyn eich eiddo gydag yswiriant cynnwys. Nid yw ein hyswiriant ni yn cynnwys eich eiddo personol, dim ond yr adeilad.
- I arbed amser yn y dyfodol, rydym yn argymell sefydlu debyd uniongyrchol.
- Cadwch eich allweddi yn ddiogel. Does dim rhai sbâr gennym ni, felly os ydych chi'n eu colli, bydd rhaid talu am rai newydd.
- Am mwy o wybodaeth am ddiogelwch tân, cliciwch yma.
Addurno
- Efallai y byddwch chi eisiau addurno rhai o’r ystafelloedd yn eich cartref newydd. Er mwyn eich helpu i wneud hyn, gallwn ddarparu talebau addurno am ddim i denantiaid newydd lle y bernir bod angen ailaddurno’u cartrefi. Ni roddir talebau peintio lle bo’r cartref wedi’i addurno’n llwyr neu lle bo’r addurniad yn niwtral ac wedi’i gwblhau i safon uchel.