Ar gyfer unrhyw ymholiadau nad ydynt yn rhai brys, gofynnwn yn garedig i chi eu hanfon atom gan ddefnyddio eich cyfrif MyNewydd neu e-bostiwch enquiries@newydd.co.uk
Mae'r datblygiad hwn yn darparu 8 fflat un a dwy ystafell wely ar gyfer rhent fforddiadwy yn nhref ddymunol y Barri.
Cawsom y safle gan Life Property Development Ltd ac SSH Investments am swm o £285,000. Cyflawnwyd gwaith ar y safle gan Sterling Construction UK Ltd am y swm o £ 957,172.05 ac fe gwblhawyd yng Ngwanwyn 2021.
Cyn ailddatblygu, roedd yr adeilad yn berchen i Gymdeithas y Llu Awyr Brenhinol ac fe'i defnyddiwyd fel clwb cymdeithasol oedd yn ymroddedig i les weuthwyr a chyn-bersonél yr RAF.
Roedd y gwaith ar y safle'n cynnwys gwaith mewnol i adeiladu fflatiau a gwaith allanol i gefn yr adeilad i ganiatáu mynediad.
Dylai preswylwyr sydd â diddordeb mewn rhentu unrhyw un o eiddo Newydd ym Mro Morgannwg gofrestru gyda Homes4U, y gofrestr tai fforddiadwy ar gyfer y sir.