Newidiadau a gwelliannau i’ch cartref
Mae gwybodaeth am welliannau i’ch cartref wedi’u cynnwys yn eich cytundeb les. Ar y cyfan, caniateir i lesddeiliaid wneud mân welliannau i’w cartrefi fel gosod silffoedd ar y waliau neu addurno.
Mae gofyn cael ein caniatâd ysgrifenedig am unrhyw waith mawr, fel estyniadau adeilad, dymchwel waliau, ac ailosod ystafelloedd ymolchi a cheginau, a bydd angen ichi gysylltu â ni cyn dechrau unrhyw brosiectau. Bydd angen hefyd ichi sicrhau bod unrhyw waith gwella awdurdodedig yn cael ei wneud gan adeiladwr ag enw da a’i fod yn cydymffurfio ag unrhyw reoliadau adeiladu, deddfwriaeth tân cyfredol neu ofynion caniatâd cynllunio’r awdurdod lleol.