Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad £18.6 miliwn hwn ym mis Hydref 2022.
Bydd y datblygiad hwn yn darparu 79 o gartrefi ar gyfer rhent fforddiadwy i bobl leol. Mae'r datblygiad hwn wedi'i adeiladu mewn partneriaeth â Newydd a Chyngor Sir Powys a'i ariannu'n rhannol gan Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Mae'r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o fflatiau 1 ystafell wely, byngalos 2 ystafell wely a thai 2, 3 a 4 ystafell wely ar gyfer rhent fforddiadwy. Mae’r cartrefi hyn yn ychwanegol i’r 55 o gartrefi ar Ffordd Ithon a gwblhawyd gan Newydd yn 2021.
Dechreuwyd y gwaith ar y safle gan J.G. Hale Construction. Y gobaith yw y bydd y cynllun yn cael ei gwblhau erbyn haf 2025.
Bydd y tai ffrâm bren newydd yn cael eu gosod â phympiau gwres ffynhonnell aer a hefyd yn cynnwys paneli solar ffotofoltäig, gan helpu i ostwng ôl troed carbon a biliau ynni.
Mae aelodau eraill y tîm cynllunio sy’n gweithio ar y prosiect tai newydd hwn yn cynnwys RPA Group, Smart Associates, Asbri Planning, Chamberlain Moss King, Indigo Safety Management a Fiona Cloke Associates.
Mae angen i drigolion lleol sydd â diddordeb mewn rhentu'r eiddo hyn gofrestru gyda Cartrefi ym Mhowys i wneud cais.