Strwythur y grŵp

Sefydlwyd Newydd yn 1974. Yn 1998, ffurfiwyd strwythur grŵp gyda Grŵp Tai Cadarn fel y rhiant-gwmni a Chymdeithas Tai Newydd (1974) Cyf fel is-gwmni. Mae dau gwmni arall wedi cael eu hychwanegu at y grŵp, Living Quarters (Lettings and Sales) Wales Ltd a Newydd Maintenance Ltd. Yn 2020, ail-frandiodd y grŵp fel Grŵp Newydd Cyf i gydnabod ein hanes a'n profiad ers 1974.

Grŵp Newydd Cyf

Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol 2014. Rheolau anelusennol. Rhiant y grŵp; yn darparu rôl oruchwylio a gwasanaethau cefnogi.

Cymdeithas Tai Newydd (1974) Cyf

Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol 2014. Rheolau elusennol. Landlord – Mae'n berchen ar ac yn rheoli 3,000 o gartrefi ar gyfer rhent fforddiadwy a pherchentyaeth cost isel yn ogystal ag amrywiaeth o fentrau adfywio cymunedol.

Newydd Maintenance Limited

Cwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau. Yr unig gyfranddaliwr yw Grŵp Newydd Cyf. Contractwr mewnol sy'n darparu gwaith ymatebol a chynlluniedig i Newydd.

Living Quarters (Lettings & Sales) Wales Limited

Cwmni preifat cyfyngedig drwy gyfranddaliadau. Yr unig gyfranddaliwr yw Grŵp Newydd Cyf. Mae'n rheoli portffolio bach o eiddo rhent y farchnad ar gyfer Newydd a landlordiaid preifat.

Mae'r grŵp yn cael ei lywodraethu gan aelodau ein Bwrdd sy'n cyfarfod sawl gwaith y flwyddyn i osod amcanion strategol, monitro perfformiad a chraffu ar benderfyniadau pwysig. Fel y rhiant, Grŵp Newydd Cyf sydd â'r rheolaeth eithaf, ac os oes angen, gall benodi aelodau i'r is-fyrddau er mwyn arfer rheolaeth. Mae Pwyllgor Risg ac Archwilio y grŵp yn cynnwys aelodau Bwrdd o bob rhan o'r grŵp ac yn ystyried rheolaeth mewnol ac yn derbyn adroddiadau uniongyrchol gan archwilydd mewnol annibynnol.