Iechyd & Llesiant: GetFit Cymru

GetFit Cymru – Gwobrwyon Fitbit

Nod GetFit Cymru yw codi lefelau gweithgaredd corfforol yr unigolion sy’n cymryd rhan yn y prosiect, gostwng gordewdra a gwneud preswylwyr yn ymwybodol o’r gwasanaethau lleol sydd ar gael yn yr ardal er mwyn gwneud newidiadau positif i’w hagweddau cymdeithasol a’u hannog i gymryd rhan mewn mwy o weithgareddau cymunedol.

Mae GetFit.Wales yn blatfform sy’n gwobrwyo pobl am fod yn actif. Mae’n gweithio drwy gysylltu proffil yr unigolyn i’w traciwr camau e.e. cyfrif Fitbit, ac mae’n dosbarthu pwyntiau ar sail y nifer o gamau a gymerwyd y tu hwnt i’r targed o gamau bod dydd a gytunwyd arno, gyda’r nod o gymryd 10,000 neu ragor o gamau, sef argymhelliad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Nodwch, os gwelwch yn dda, y bydd yn rhaid i’r cyfranogwr syncio eu Fitbit drwy’r ap Fitbit bob dydd cyn y gall algorithm GetFit.Wales wobrwyo’r nifer perthnasol o bwyntiau.

Yr her cam ymlaen

Rhoddodd ein ‘her cam ymlaen’ Getfit.Wales gyfle i bobl ifanc roi cynnig ar rywbeth newydd a dangos i eraill beth sy’n bosibl.

Cymerodd dros 100 o bobl ifanc ran ym mis Mawrth 2022, sef y tro cyntaf i lawer gymryd rhan mewn her 10K. Gobeithiwn, yn dilyn llwyddiant yr her hon, y gallwn barhau i gefnogi ysgolion lleol, grwpiau cymunedol ac unigolion i adeiladu ar eu llwyddiant trwy ddatblygu arferion cadarnhaol cryf trwy ein gwefan Getfit.Wales.

Partneriaid yn y gymuned

Mae Getfit.Wales yn archwilio'r defnydd o dracwyr camau ac yn argymell cyrraedd targedau personol. Mae pwyntiau a gredydir o lwyddiant o'r fath yn galluogi'r cyfranogwr i wario ar dalebau sy'n darparu mynediad am ddim a defnydd o nwyddau a gwasanaethau iechyd a lles lleol. Mae ein canfyddiadau hyd yma wedi dangos gwell gweithgaredd corfforol ac awydd cryf i gael mynediad at wasanaethau lleol sy'n gwella eu lles ymhell ar ôl i'w cyfranogiad yn y prosiect ddod i ben.

Felly os ydych yn sefydliad sy’n darparu nwyddau neu wasanaethau sy’n cefnogi neu’n gwella lles corfforol a meddyliol pobl, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o’r daith hon gyda ni.

Gallwch ennill pwyntiau ar y wefan am uchafswm o 12 wythnos, a gallwch wario’r pwyntiau ar ddarpariaeth iechyd lleol a bwyd sy’n hybu ffordd iach o fyw. I annog gwario, cedwir pob pwynt a enillir yn waled ar-lein y cyfranogwr am gyfnod o 30 diwrnod. Os nad yw’r pwyntiau’n cael eu gwario o fewn y cyfnod penodedig, byddant yn cael eu dileu er mwyn stopio celcio.