Cwestiynau cyffredin

Alla i wneud gwelliannau i’m cartref?

Mae gennych yr hawl i wneud gwelliannau i’ch cartref ac, mewn rhai amgylchiadau, gwneud cais am iawndal am y gwelliannau a wnaethoch os penderfynwch derfynu’ch contract a gadael yr eiddo.

Bydd Newydd yn ystyried pob cais am welliant gan denant os nad yw’n lleihau gwerth yr eiddo nac yn effeithio ar y gallu i osod yr eiddo nac ar olwg yr eiddo. Fodd bynnag, sylwch na fyddwch yn gallu gwneud gwelliant nac addurno yn ystod y flwyddyn gyntaf os yw’ch cartref yn un newydd sbon.

Ble alla i barcio fy ngherbydau?

Parciwch eich car/fan/beic modur mewn man lle nad yw’n achosi problemau i eraill.

Rhaid i’r holl gerbydau sy’n cael eu parcio ar dir Newydd gael eu trethu a bod mewn cyflwr da. Rhaid i bob cerbyd heb ei drethu gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol ac ni ddylid ei barcio mewn ardaloedd cymunedol. Os oes gennych chi garafán, cwch neu gerbyd masnachol, ni chewch eu parcio mewn ardal gymunedol. Cofiwch fod llawer o ystadau bellach yn destun trwyddedau neu gyfyngiadau parcio.

Alla i gadw anifeiliaid anwes?

Os ydych yn ystyried cadw anifail anwes yn eich cartref, rhaid ichi gael caniatâd yn gyntaf. Defnyddiwch Fy Newydd neu ebostiwch ni ar ymholiadau@newydd.co.uk i gysylltu â ni.

Beth am cartefi byw'n annibynnol?

Fel arfer, mae gan cartrefi byw'n annibynnol fynediad ac ardaloedd sy’n cael eu rhannu, ac nid yw hynny bob amser yn addas i gadw anifeiliaid anwes.

Anifeiliaid anwes yn achosi niwsans

Os bydd eich anifail anwes yn achosi niwsans i eraill, byddwn yn rhoi gwybod ichi ac yn cynnig cyngor i’ch helpu i ddatrys y broblem. Os bydd y niwsans yn parhau a’ch bod naill ai’n gwrthod neu’n methu â datrys y broblem, bydd rhaid inni gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.

Pwy sy’n gyfrifol am ofalu am erddi gan gynnwys gerddi cymunedol?

Chi sy’n gyfrifol am ofalu am eich gardd ffrynt a’ch gardd gefn ac am eu cadw’n lân ac yn daclus.

Os ydych yn talu tâl gwasanaeth ar gyfer glanhau a chynnal gardd gymunedol, bydd Newydd yn cyflogi contractwr tirlunio i wneud y gwaith.

Bydd staff yn gwneud archwiliadau rheolaidd i sicrhau bod gwaith y contractwr tirlunio o safon dderbyniol. Anogir y tenantiaid i gymryd rhan yn yr archwiliadau ar eu hystadau. Cysylltwch â Newydd ar 0303 040 1998 i gael gwybod rhagor am hyn.

Am beth mae fy rhent a’m tâl gwasanaeth yn talu?

Eich rhent yw’r arian a dalwch i Newydd i fyw yn eich cartref. Efallai bydd eich rhent yn cynnwys tâl gwasanaeth.

Mae’ch tâl gwasanaeth yn talu am y pethau y bydd Newydd yn eu gwneud i’ch cartref ac ar eich ystâd neu gynllun, er enghraifft:

  • Glanhau ardaloedd cymunedol mewnol
  • Glanhau ffenestri
  • Torri porfa a chasglu sbwriel mewn ardaloedd cymunedol
  • Goleuo a gwresogi ardaloedd cymunedol
  • Darparu a thrin systemau mynediad drws, offer diogelwch tân neu larymau cymunedol
  • Cost swyddog byw’n annibynnol mewn cynllun byw’n annibynnol
  • Eitemau cymunedol eraill fel lifftiau, carpedi, erialau teledu a biniau sbwriel.

Efallai bod eich tâl gawasnaeth yn cynnwys eitemau eraill ar wahân i’r rhain. Os hoffech wybod beth yn union y mae eich tâl gwasanaeth yn talu amdano cysylltwch gyda Newydd. Mewn rhai cynlluniau byw’n annibynnol efallai y bydd rhaid i chi roi taliad i Newydd am daliadau dŵr, gwresogi eich cartref a larymau cymunedol gan nad ydy’r rhain yn gynwysiedig mewn budd-dal tai (os ydych yn hawlio’r budd-dal yma). Fe fydd rhaid i chi wneud eich trefniadau eich hun i dalu am y rhain.

A fydd cost rhentu fy nghartref a’r taliadau gwasanaeth yn newid?

Adnewyddir eich rhent a’ch tâl gwasanaeth (os yw’n berthnasol) yn ystod mis Ebrill bob blwyddyn a byddwch yn derbyn llythyr sy’n rhoi rhybudd o unrhyw newidiadau 8 wythnos ymlaen llaw. Bydd hyn tua dechrau mis Chwefror bob blwyddyn.

Beth os na allaf dalu fy rhent?

Os na allwch wneud eich taliad rhent am unrhyw reswm, cysylltwch â'ch swyddog tai cyn gynted â phosibl.