Perchenogaeth ar y cyd

Mae nifer o eiddo perchenogaeth ar y cyd gyda ni, sy’n golygu bod lesddeiliaid yn talu rhent ar y gyfran sy’n berchen gan Newydd, ond gyda’r cyfle i brynu rhagor o gyfranddaliadau a/neu hyd at 100% o’r eiddo. Fodd bynnag, nid oes rhwymedigaeth i wneud hyn.

Os mai tŷ yw eich eiddo ac rydych chi’n penderfynu camu i 100%, bydd rhydd-ddaliad y tŷ yn cael ei drosglwyddo i chi heb unrhyw dâl pellach. Yn dilyn trosglwyddiad y rhydd-ddaliad, ni fyddwch bellach yn atebol i dalu rhent ac os hoffwch, bydd modd i chi rhentu’r eiddo i rywun - mae eich les brydles yn mynnu mai chi sy’n meddiannu’r eiddo.

Os mai fflat yw eich eiddo, nid oes modd trosglwyddo’r rhydd-ddaliad i chi, hyd yn oed os ydych yn camu i 100%. Mae’r sefyllfa yn dilyn prynu 100% o’r lesddaliad yn wahanol, cysylltwch â ni os hoffech chi ragor o wybodaeth.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’n Tîm Cyfreithiol ar 0303 040 1998. Nodwch, nid oes hawl gennym ni i ddarparu cyngor cyfreithiol.