Addurno
Efallai y byddwch chi eisiau addurno rhai o’r ystafelloedd yn eich cartref newydd. Er mwyn eich helpu i wneud hyn, gallwn ddarparu talebau addurno am ddim i denantiaid newydd lle y bernir bod angen ailaddurno’u cartrefi. Ni roddir talebau peintio lle bo’r cartref wedi’i addurno’n llwyr neu lle bo’r addurniad yn niwtral ac wedi’i gwblhau i safon uchel.