Eich hawliau a chyfrifoldebau

Fel lesddeiliad, mae hawl gyda chi i fyw yn heddychlon yn eich cartref. Ond mae rhaid i chi gwrdd â rhwymedigaethau eich prydles, sy’n cynnwys:

  • Talu’r rhent tir, yswiriant, taliadau gwasanaeth a’ch cyfran o unrhyw gostau atgyweiriadau mawr sydd angen ar eich eiddo
  • Cyflawni unrhyw waith atgyweirio ar eich eiddo yr ydych yn gyfrifol am
  • Peidio gwneud unrhyw newidiadau strwythurol heb ganiatâd mewn ysgrifen
  • Peidio achosi niwsans neu aflonyddwch i’ch cymdogion
  • Defnyddio eich cartref fel preswyl preifat yn unig
  • Rhoi gwybod i Newydd os ydych yn bwriadu isosod neu werthu eich prydles
  • Bod yn gyfrifol am atgyweirio unrhyw ollyngiadau dŵr, yn ogystal ag unrhyw gostau atgyweirio difrod o ganlyniad.

Mae copi o'ch prydles ar gael o Gofrestrfa Tir am dâl bychan.