Llesiant: eCymru
Rydym wedi bod yn gweithio â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig eraill a thenantiaid ledled Cymru i greu eCymru, porth tai sy’n cysylltu cymunedau Cymru. Mae eCymru yn cynnig mynediad i ddigwyddiadau a chyfleoedd ymgysylltu.
Amdan eCymru
Mae eCymru yn cynnig cyfle i chi wella eich llesiant trwy gyfrwng digwyddiadau, ymgysylltu a chyfleoedd dysgu’n electronig. P’un ai oes gennych chi ddiddordeb mewn celf a chrefft, addysg, ffitrwydd neu iechyd, mae gan eCymru rywbeth i bawb. Grymusir y porth gan wybodaeth, sgiliau a phrofiadau unigolion o bob rhan o Gymru, gan sicrhau ei fod yn ateb anghenion amrywiol y cymunedau mae’n eu gwasanaethu. Manteisiwch ar y cyfle cyffrous hwn i gysylltu â chymuned dai Cymru!
Pwy all ddefnyddio eCymru?
Mae eCymru yn agored i bob tenant a Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru. Manteisiwch ar y cyfle cyffrous hwn i gysylltu â chymuned dai Cymru!. Ewch draw i’w gwefan yma: www.ecymru.co.uk.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch i ddefnyddio eCymru neu i gael mynediad at y cyrsiau, rhowch wybod i ni, a bydd ein Tîm Cynhwysiant Digidol yn gallu eich helpu.