Cymryd Rhan
Cymerwch ran a helpwch ni i wella ein gwasanaethau
Credwn ei bod yn hanfodol galluogi ein tenantiaid i gael dweud eu dweud am eu taith fel tenant a sut mae eu gwasanaethau tai yn cael eu darparu. Nawr ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Cadwyn, rydym wedi datblygu strategaeth cyfranogiad tenantiaid newydd ar y cyd.
Gallwch wirfoddoli eich amser i roi adborth/syniadau gwerthfawr i’n helpu i ddiwallu anghenion amrywiol ein cwsmeriaid yn well a gwella boddhad tenantiaid mewn nifer o ffyrdd:
- Dod yn aelod Bwrdd a helpu gyda llywodraethu strategol ac arwain gweithrediadau (byddwn yn hysbysebu ac yn recriwtio pan fydd swydd wag).
- Dod yn aelod o Dîm Craffu Cadarn i graffu ar ein gwasanaethau ar lefel strategol (byddwn yn hysbysebu ac yn recriwtio pan fydd swydd wag)
- Mynychu grŵp ffocws ar-lein i'n helpu i wella ein cartrefi a'n gwasanaethau.
- Dod i ddigwyddiad naid cymunedol misol a siarad â staff am unrhyw faterion neu gwestiynau yn ymwneud â thai sydd gennych. Byddwn yn anfon neges destun neu e-bost atoch pan fyddwn yn eich ardal.
- Ymuno â'n Panel Darllen a Pholisi i adolygu ein polisïau a'n dogfennau drwy e-bost.
- Helpu ni i recriwtio staff newydd drwy eistedd ar ein paneli cyfweld. Byddwn yn darparu hyfforddiant i chi cyn i chi ddod yn aelod o'r panel.
- Ymuno â'n Panel Ariannu Budd Cymunedol i helpu i benderfynu sut a ble mae ein cyllid budd cymunedol yn cael ei wario yn ein cymunedau.
- Mynychu cyfarfodydd gan ddefnyddio'r pyrth tenantiaid mewn lolfeydd cymunedol byw'n annibynnol. Fe'u cynhelir i alluogi tenantiaid o'n 5 cynllun i drafod y gwasanaethau y maent yn eu derbyn a sut y gellir eu gwella gyda'i gilydd.
- Cymryd rhan mewn arolwg ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post i rannu eich adborth (mwy o wybodaeth am arolwg ffôn annibynnol Acuity isod).
Peidiwch â phoeni, os nad yw’r un o’r opsiynau hyn yn apelio atoch, a’ch bod eisiau rhannu eich adborth gyda ni (da neu ddrwg) ar unrhyw agwedd o'n gwasanaeth. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â'n tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid ar 0303 040 1998.
Sut alla i ddarganfod beth sydd yn dod fyny?
Byddwn yn rhannu cyhoeddiadau am gyfarfodydd a digwyddiadau sydd i ddod:
- Ar ein cyfryngau cymdeithasol.
- Ar ein porth tenantiaid ‘Fy Newydd’.
- Yn ein e-gylchlythyr tenantiaid deufisol ‘Mewn Ffocws’.
- Dros e-bost, neges destun neu drwy'r post.
Beth sydd ei angen arnaf i gymryd rhan ac a oes cymorth ar gael?
I gymryd rhan mewn cyfarfodydd ar-lein, bydd angen dyfais gyda mynediad i'r rhyngrwyd arnoch (e.e. ffôn, gliniadur, cyfrifiadur personol). Os nad oes gennych yr offer angenrheidiol, gall ein Tîm Cynhwysiant Digidol ddarparu offer TG am ddim ynghyd â hyfforddiant.
Gallwn ddarparu cludiant i gyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ad-dalu eich milltiredd. Rydym hefyd yn darparu lluniaeth yn y cyfarfodydd hyn. Bydd amserau cyfarfodydd yn cael eu hamrywio i gyd-fynd ag amserlenni pawb a byddwn yn gwneud ein gorau i fodloni unrhyw ofynion eraill sydd gan denant. Ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb, mae ein swyddfa yn hygyrch i gadeiriau olwyn, mae ganddi adnoddau ar gyfer y rhai â nam ar eu golwg a'u clyw yn ogystal â mynediad i ystafell weddïo ac ystafell bwydo o'r fron. Rydym bob amser yn ceisio trefnu lleoliadau hygyrch os yw cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y gymuned.
Pam ddylse i cymryd rhan?
Ein gweledigaeth yw cefnogi a grymuso tenantiaid i ddylanwadu ar ein penderfyniadau strategol a pholisi. Mae hyn er mwyn gwella gwasanaethau trwy gyfleoedd cyfranogiad ystyrlon.
Mae cynnwys tenantiaid yn ddull cyfathrebu dwy ffordd rhwng tenantiaid a landlord. Gall arwain at ganlyniadau cadarnhaol i bawb, gan gynnwys:
- Cymunedau wedi'u grymuso a all lywio'r ffordd y mae ein sefydliadau'n gweithio
- Gwell gwasanaethau sy'n bodloni anghenion amrywiol ein tenantiaid, sydd yn ei dro yn gwella boddhad tenantiaid
- Cymunedau mwy cynaliadwy gydag ysbryd cymunedol cryf
- Gwell ansawdd bywyd i denantiaid
- Cyfle i bob tenant lleisio'u barn
- Gwell perthnasoedd rhwng y landlord a'r tenant wedi'i adeiladu ar barch ac ymddiriedaeth
- Gwasanaethau sy'n fwy effeithlon, gan arwain at well gwerth am arian
Dywed TPAS Cymru fod cyfranogiad tenantiaid “yn ffordd y mae tenantiaid a landlordiaid yn rhannu syniadau. Mae'n ffordd i'r tenant gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a geir yn ystod trafodaethau am wella safon amodau a gwasanaethau tai. Mae hyn o fudd i’r tenant a’r landlord, a’r syniad yw rhoi cyfle i’r tenant leisio pryderon, rhannu barn a chyfrannu syniadau cadarnhaol am y gwasanaeth tai y mae’n ei dderbyn.”
Byddwn yn parhau i ddatblygu diwylliant o ymddiriedaeth, parch a phartneriaeth a byddwn yn gweithio'n agos gyda'n tenantiaid a'n partneriaid tuag at y nod cyffredin o wella amodau tai a gwasanaethau i bawb.
Rydym eisiau eich adborth er mwyn gwella ein gwasanaethau
Bob blwyddyn, mae cwmni ymchwil i’r farchnad o’r enw Acuity yn cysylltu â 500 o denantiaid er mwyn casglu eu barn ar y gwasanaeth mae Newydd yn ei ddarparu. Dylai’r arolwg gymryd tua 10 munud i’w gwblhau ac mae’n hollol gyfrinachol. Gallwch aros yn ddienw, neu os yw’n well gennych, mae croeso i chi roi eich enw i Acuity fel y gallwn ni edrych i mewn i unrhyw broblemau a gwella ein gwasanaethau. Dim ond rhwng 09:30 a 19:00 ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 10:00 a 18:00 ar ddydd Sadwrn y mae Acuity yn gwneud galwadau ffôn. Bydd cyfwelwyr yn gadael i’r ffôn ganu am o leiaf 25 eiliad, neu tan iddyn nhw glywed eich peiriant ateb, er mwyn sicrhau bod tenantiaid sydd â phroblemau symud yn cael digon o amser i gyrraedd y ffôn. Rhannwch eich adborth gyda ni, os gwelwch yn dda, os yw Acuity yn cysylltu â chi i gwblhau arolwg neu unrhyw arolygon boddhad eraill y byddwch yn eu derbyn. Mae eich mewnbwn yn ein helpu ni i ddeall sut y gallwn ni wella ein gwasanaethau.
Os hoffech ymuno â’n Panel Darllen a Pholisi, ymuno â’n Panel Ariannu Budd Cymunedol neu ein helpu gyda recriwtio neu eisiau cysylltu ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill yn ymwneud â chynnwys tenantiaid mewn gwella gwasanaethau - cysylltwch â Tracy James, ein Swyddog Cynnwys: tracy.james@newydd.co.uk neu 02920 00 5477.
Pwls Tenantiaid TPAS Cymru
Gallwch chi hefyd gymryd rhan trwy gymryd rhan yn Pwls Tenantiaid. Llais tenantiaid yng Nghymru yw Pwls Tenantiaid. Fe’i crëwyd gan TPAS Cymru ac fe’i cefnogir gan Lywodraeth Cymru.