Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad £2.3 miliwn hwn ym mis Chwefror 2023.
Bydd y datblygiad hwn mewn partneriaeth a Chyngor Rhondda Cynon Taf yn darparu 12 o gartrefi un ystafell wely i'w rhentu'n fforddiadwy ar Stryd Edward, Abercynon yn Rhondda Cynon Taf.
Mae gwaith wedi dechrau ar y
safle gan WK Plasterers LTD. Y gobaith yw bydd y cynllun yn cael ei
gwblhau erbyn dechrau 2025.
Derbyniodd y cynllun gyllid gan
Raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru er
mwyn mynd i'r afael â'r anghenion tai lleol.
Mae'r cartrefi hyn wedi'u cynllunio i fodloni'r safonau amgylcheddol diweddaraf a bydd ganddynt EPC Safon Uwch sy'n effeithlon o ran ynni oherwydd system wresogi sydd ddim yn danwydd ffosil.
Mae gan ardal Edward Street hanes cyfoethog. Cyn y datblygiad hwn, roedd yn gartref i Neuadd a Sefydliad y Gweithwyr Abercynon, sefydliad hanesyddol a chwaraeodd ran hanfodol yn y gymuned. Agorwyd y neuadd ar Ragfyr 18, 1905, a'i gynllunio gan y pensaer lleol Mr. F. Gibson, a safai fel yr adeilad mwyaf o'i fath yn Neheudir Cymru ar y pryd. Roedd y neuadd yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau amrywiol, gan groesawu ffigurau nodedig fel Keir Hardie, Ramsay MacDonald, ac Aneurin Bevan. Roedd hefyd yn lleoliad ar gyfer Eisteddfodau lleol, cyngherddau, operâu, cyfarfodydd, darlithoedd, digwyddiadau addysg oedolion, a chynulliadau cymdeithasau llenyddol.
I wneud cais am gartref yn Rhondda Cynon Taf, mae'n rhaid i chi gofrestru eich diddordeb yn gyntaf gyda'r awdurdod lleol yma. Yna byddant yn prosesu eich cais ac yn cysylltu â chi ag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.