Eich cadw chi'n ddiogel
Fel sefydliad sydd â gwerthoedd cadarn, rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn delio mewn ffordd gyson gyda materion sy’n ymwneud ag amddiffyn oedolion a phlant sy’n agored i niwed.
Er mai’r awdurdod lleol sydd â’r ddyletswydd statudol, mae gan Newydd ddyletswydd i ofalu wrth roi gwybod am achosion posib o gam-drin neu ofal anaddas.
Rydym wedi ymrwymo i’r canlynol:
- hwyluso diogelwch ac amddiffyn oedolion a phlant sy’n agored i niwed
- hybu iechyd a llesiant oedolion a phlant sy’n agored i niwed
- gwella ansawdd bywyd oedolion a phlant sy’n agored i niwed
- gwella’r modd yr adnabyddir achosion o gam-drin a sut y gallwn ymateb i’r achosion hynny
- gweithio ar y cyd â phartneriaid perthnasol megis gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol i atal oedolyn neu blentyn sy’n agored i niwed rhag cael ei gam-drin
- hyfforddi ein staff i adnabod, ymateb a gweithio i atal camdriniaeth, yn ogystal â bod â gweithdrefn gofnodi mewn lle pe amheuir bod achos o gam-drin
Cam-drin domestig
Nid yw cam-drin domestig yn dderbyniol; nid yr unigolion sy'n dioddef trais a chamdriniaeth sydd ar fai ac nid nhw yw'r unig rhai sy'n dioddef. Mae cymorth a chefnogaeth ar gael.
Gall Byw Heb Ofn ddarparu cymorth a chyngor ar gyfer:
- unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig
- pobl sy'n adnabod rhywun sydd angen cymorth. Er enghraifft, ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr
- ymarferwyr sydd am gael cyngor proffesiynol
Mae pob sgwrs â staff Byw Heb Ofn yn gyfrinachol ac yn cael eu cynnal â staff sy'n brofiadol iawn ac wedi'u hyfforddi'n llawn.
- Ffoniwch: 08088010800
- Tecstiwch: 07860077333
- Ebostiwch: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru am fwy o wybodaeth. Gallwch hefyd fynd ar Gallwch hefyd fynd ar wefan Heddlu De Cymru, a all eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau cymorth sydd yn deall eich anghenion penodol.
Gallwch hefyd gysylltu gyda Samaritans Cymru, a fydd yn gallu eich cefnogi 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
- Ffoniwch: 116123
- Ebostiwch: jo@samaritans.org
- Gwefan
Cewch hyd i’n polisi diogelu yma. (Saeneg yn unig)