Cyfleustodau
Nwy a thrydan
Gan amlaf, mae gan ein cartrefi gyflenwad nwy a thrydan. Yn ambell un o’n cartrefi, dim ond cyflenwad trydan sydd ar gael.
Cyn i chi symud i mewn i’ch cartref newydd, ni fydd y cyflenwr nwy a thrydan yn diffodd nac yn datgysylltu’ch cyflenwad; fodd bynnag, bydd angen ichi drefnu bod y manylion yn cael eu newid i’ch enw chi. Byddwn yn rhoi enw a rhif ffôn y cyflenwr i chi er mwyn ichi wneud hyn. Bydd angen hefyd ichi ddarparu’r darlleniadau o’r mesuryddion.
Mae dau fath o fesurydd – mesuryddion chwarterol a mesuryddion rhagdalu:
- Os oes gan eich tŷ newydd fesurydd chwarterol, mae angen ichi ddarparu darlleniad y mesurydd a’ch enw ac egluro sut hoffech dalu am y cyflenwad nwy. Mae nifer o ffyrdd i dalu, naill ai drwy fil chwarterol neu gynllun talu sy’n gallu bod yn wythnosol neu’n fisol. Bydd y cyflenwr nwy’n derbyn debyd uniongyrchol am y taliadau hyn neu’n anfon cerdyn talu atoch, a gallwch drafod ffyrdd eraill o dalu gyda’r cyflenwr.
- Os oes gan eich cartref fesurydd rhagdalu, mae angen ichi ddarparu’r darlleniadau o’r mesurydd - gall fod cynifer ag 8 darlleniad ar fesurydd trydan ac fel arfer 2 ar fesurydd nwy. Bydd y cyflenwr naill ai’n anfon cerdyn neu allwedd atoch er mwyn i chi brynu nwy neu drydan.
Efallai bydd gennych gymysgedd o fesuryddion rhagdalu neu chwarterol; os mynnwch, gallwch ofyn am newid mesurydd ond mae’r cwmnïau ynni wedi dechrau codi tâl am y gwasanaeth hwn, felly bydd angen ichi holi a yw’n bosibl newid eich mesurydd a beth fyddai’r gost.
Mae’n bwysig i chi roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar y cyflenwr i sicrhau na fyddwch yn atebol am unrhyw newidiadau i’r tenant blaenorol.
Er mwyn chwilio am y bargeinion ynni gorau a chael y cyfle i arbed hyd at £200 y flwyddyn, ewch i'r wefan Go Energy Shopping.
Cyflenwad dŵr
Bydd eich cyflenwad dŵr yn dal wedi ei gysylltu ond bydd angen i chi roi gwybod i Dŵr Cymru neu Hafren Dyfrdwy eich bod chi wedi symud i mewn. Mae gennych hawl i gael mesurydd dŵr wedi ei osod ond mae’n rhaid i chi roi gwybod i adran cynnal a chadw Newydd. Nodwch os gwelwch yn dda nad yw mesuryddion dŵr wastad yn gweithio allan i fod yn gost-effeithlon ac ni ellir cael gwared ag e wedi iddo gael ei osod.
Gwres canolog
Rydym yn ceisio dod i drin ein boeleri tra bydd y cartref yn wag a byddwch yn cael Tystysgrif Diogelwch Landlord i ddangos bod hyn wedi’i wneud. Bydd y boeler wedyn yn cael ei drin bob blwyddyn.
Os oes gennych fesurydd(ion) rhagdalu, ni allwn drin y boeler nes bod gennych gredyd ar y mesuryddion nwy a thrydan. Yn yr achosion hyn, am resymau diogelwch, mae’n rhaid inni roi ‘cap’ ar eich boeler a/neu’ch cyflenwad nes byddwch wedi prynu a chofrestru credyd ar eich mesuryddion. Ar ôl ichi wneud hyn, bydd angen ichi roi gwybod i ni, byddwn yn gwybod bod angen trin eich boeler. Cofiwch fod rhaid ichi gael credyd ar y mesuryddion nwy a thrydan cyn ichi ffonio.
Trin eich boeler nwy
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i Newydd drin eich boeler nwy bob blwyddyn. Rhaid i chi adael ein peirianwyr trin nwy i mewn i’ch cartref i wneud y gwaith. Cysylltwch â ni i weld pryd mae’ch prawf boeler nwy’n digwydd nesaf.
Os na fyddwch yn caniatáu i ni wasanaethu eich boeler nwy gallai eich rhoi chi, eich teulu a bywydau eich cymdogion mewn perygl. Bydd methu â chydymffurfio yn arwain at Newydd i wneud cais i’r Llys am waharddeb i gael mynediad i’ch cartref i wneud gwaith angenrheidiol. Os bydd cais i’r llys yn cael ei wneud, chi fydd yn gyfrifol am holl gostau’r llys.