Pentref Clare Garden, Y Bontfaen

Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer pedwar tŷ pâr 2 ystafell wely newydd ym Mhentref Clare Garden, Y Bont-faen.

Pris: £151,000 (Tŷ pâr)

  • Plot 322 – Gwerthwyd yn amodol ar gontract
  • Plot 323 – Gwerthwyd yn amodol ar gontract 
  • Plot 328 – Gwerthwyd yn amodol ar gontract 
  • Plot 329 – Gwerthwyd yn amodol ar gontract 
  • Plot 345 - Wedi'i werthu yn amodol ar gontract 
  • Plot 246 - Wedi'i werthu yn amodol ar gontract 
  • Plot 281 – Ar gael yn fuan – Ceisiadau ac archeb oddi ar y cynllun ar gael nawr 
  • Plot 282 – Ar gael yn fuan – Ceisiadau ac archeb oddi ar y cynllun ar gael nawr 
  • Plot 287 – Ar gael yn fuan – Ceisiadau ac archeb oddi ar y cynllun ar gael nawr 
  • Plot 288 – Ar gael yn fuan – Ceisiadau ac archeb oddi ar y cynllun ar gael nawr


Mae'r cartrefi 2 ystafell wely yma wedi eu lleoli ar ddatblygiad dymunol o 475 o gartrefi ar yr hen safle Darren Farm ar gyrion y Bontfaen, tre farchnad ym Mro Morgannwg, tua 7 milltir i'r gorllewin o Gaerdydd.

Bydd datblygiad Pentref Clare Garden hefyd yn cynnwys adeiladu ffordd gyswllt sy'n cysylltu ffordd osgoi'r Bont-faen â Llanilltud Fawr, yn ogystal â llwybrau troed, llwybrau beicio, a thirlunio.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag Aspire2Own, a byddwch yn prynu’r eiddo hwn o dan y cynllun perchentyaeth cost isel - Cymorth Prynu Cymru.

Mae polisi gwerthu lleol yn ei le a rhoddir blaenoriaeth i'r rhai sydd â chysylltiad â'r Bont-faen, Llanblethian neu Ben-llin.

Mae'r eiddo, a adeiladwyd gan Taylor Wimpey, yn cynnwys:

  • Cyntedd
  • Cegin newydd sbon wedi'i gosod
  • Lolfa gyda drysau patio i'r ardd
  • Dwy ystafell wely
  • Ystafell ymolchi deuluol fodern
  • Toiled i lawr grisiau
  • Cwpwrdd storio i lawr y grisiau
  • Dau le parcio wedi'u neilltuo a gardd
  • Bydd taliadau gwasanaeth

Cliciwch ar y dolenni isod i edrych ar y teithiau rhithwir 360˚ o bob plot.

Am fwy o fanylion ar sut i wneud cais, ewch i’'r dudalen yma ar ein gwefan.

Unrhyw gwestiwn? Mae croeso i chi anfon e-bost atom enquiries@newydd.co.uk a sôn am berchnogaeth gartref y Bont-faen.

Ewch drwy'r lluniau isod i weld cynlluniau'r cartrefi newydd.