Ymestyn eich prydles

Bydd les newydd fel arfer yn para am gyfnod o 125 mlynedd, sy’n dderbyniol er mwyn cael morgais ac ar gyfer cadw gwerth eich eiddo.

Gyda phob blwyddyn sy’n mynd heibio bydd eich les yn lleihau ac fe ddaw amser pan ddylech ystyried ei hymestyn. Os ydych chi’n berchen ar eiddo sydd â chyfnod cymharol fyr yn weddill ar y les, gallai hyn effeithio ar eich gallu i gael morgais ac i werthu’r eiddo, a gallai gwerth yr eiddo ddisgyn.

Does dim amser pendant pan mae’n rhaid i chi ymestyn eich les, ond fe all fod yn ddrutach i ymestyn les gyda chyfnod o lai na 80 mlynedd. Os yw eich les yn dod tua’i diwedd, gallwch gysylltu â ni i drafod eich opsiynau.