Sut caiff eich rhent ei wario?

Rydym yn gymdeithas tai nid-er-elw, sy’n golygu bod yr holl arian rydym yn ei dderbyn yn mynd yn ôl i ddarparu cartrefi a gwasanaethau o safon uchel ar gyfer ein tenantiaid. Mae’n hynod bwysig fod ein rhenti yn fforddiadwy i’n holl denantiaid. Rydym hefyd eisiau sicrhau bod rhenti’n deg ac yn unol â’r hyn mae tenantiaid yn ei ddisgwyl. Adolygir fforddiadwyedd rhenti a thaliadau gwasanaeth ym mhob lleoliad.

Isod, fe welwch fanylion ein cyllideb o ran sut rydym yn gwario eich rhent a thaliadau gwasanaeth. Nodwch, os gwelwch yn dda, bod y ffigyrau hyn wedi’u seilio ar y gyllideb o 1af o Ebrill 2024 i 31ain o Fawrth 2025.

Am bob £100 o’ch rhent chi, rydym yn gwario:


Os hoffech wybod mwy am sut rydym yn gwario ein rhenti, gallwch ddarllen ein Hadroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol yma.

Os hoffech wybod sut rydym yn gosod eich rhent, darllenwch Ein Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth am ragor o wybodaeth.

Mae darparu cefnogaeth i denantiaid sy’n ei chael hi’n anodd talu eu rhent yn flaenoriaeth uchel iawn i ni. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn yr argyfwng costau byw presennol, sy’n effeithio ein tenantiaid. Rydym wedi casglu gwybodaeth a chyngor i’ch helpu chi drwy’r cyfnod hwn yma. Os ydych yn cael trafferth talu eich rhent, cysylltwch â ni cyn gynted ag y gallwch, ewch i'n tudalen cysylltu a gofynnwch am gael siarad â'r Tîm Cynhwysiant Ariannol.