Jason Wroe BSc (Anrh), FCIH Prif Weithredwr ers 2020
Cyflog: £102,889. Daeth Jason yn Brif Weithredwr Grŵp Newydd Cyf. yn hydref 2020. Cyn y penodiad hwn, bu’n Gyfarwyddwr Tai gyda Newydd ers 2003. Gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad yn y sector, mae Jason wedi gweithio i nifer o gymdeithasau tai Cymreig gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Cymdeithas Tai Teulu, a Chymdeithas Tai Morgannwg a Gwent. Mae Jason hefyd wedi gwasanaethu ar Fyrddau nifer o gymdeithasau tai a hefyd ar Gyngor Cenedlaethol Ffederasiwn Cymru o Gymdeithasau Tai (a elwir nawr yn Cartrefi Cymunedol Cymru). Ar hyn o bryd mae’n aelod o Fwrdd Sefydliad Tai Siartredig Cymru ac yn Ymddiriedolwr gyda Gofal a Thrwsio Caerdydd a’r Fro. Cyn symud i Gymru bu’n gweithio gyda Chyngor Dosbarth Welwyn Hatfield.
Elizabeth Lendering BA (Anrhydedd), FCA Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau ers 2009
Cyflog: £81,530. Cymhwysodd Elizabeth gyda’r FCA ym 1994. Cyn ymuno â Grŵp Newydd treuliodd 7 mlynedd yn Gyfarwyddwr Adnoddau yn Arthritis Care gyda chyfrifoldeb am Gyllid, TG ac AD. Cyn hynny, roedd ei phrofiad yn cynnwys gwaith gyda Stratford Development Partnership (asiantaeth adfywio canol dinas) a Eaves Housing for Women (tai â chymorth i fenywod sy’n agored i niwed).
Oonagh Lyons BA (Anrh) PG DIP CIHCM, TAR(AU) Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau
Mae Oonagh wedi bod yn gweithio yn y sector tai ers 25 mlynedd. Dechreuodd ei gyrfa’n gweithio i Gymdeithas Tai Wales & West, cyn symud i Linc Cymru ac yna ail-leoli i Lundain. Yno, bu Oonagh’n gweithio i Hyde Housing Association, lle roedd hi’n rheoli swyddfeydd ardal yn Bromley, Peckham a Lewisham ac yn ymwneud â nifer o brosiectau adfywio mawr ac amryw o fentrau tai ar gyfer teuluoedd digartref, cysgwyr allan a gweithwyr allweddol, yn ogystal ag anghenion cyffredinol, ac yn cefnogi datblygiadau tai. Yn fwy diweddar, bu Oonagh yn gweithio ym Mryste fel Rheolwr Gwasanaethau Cymdogaeth ar gyfer y Merlin Housing Society, sydd nawr yn rhan o’r Bromford Group. Ymunodd Oonagh â Newydd yn 2018 ac fe’i penodwyd hi’n Bennaeth Tai yn 2019.
Simon Morris BSc (Anrhydedd), MRICS, MCIOB Cyfarwyddwr Eiddo ers 2003
Cyflog: £74,077. Ymunodd Simon â Newydd yn Gyfarwyddwr Eiddo yn 2003, ac mae’n gyfrifol am y swyddogaethau cynnal a chadw a datblygu adeiladau newydd, ynghyd â chyfrifoldeb am swyddfeydd yr ydym naill ai’n eu prydlesu neu’n berchen arnynt. Mae Simon yn gweithio yn y sector tai ers 20 mlynedd bellach, gan weithio i gymdeithasau tai yng Nghymru a Lloegr. Cyn Newydd, roedd Simon yn gweithio i Gymdeithas Tai Unedig Cymru yng Nghaerffili, a chyn hynny i Warden Housing Association (rhan o Home Group) yn Llundain. Dechreuodd Simon ei yrfa’n gweithio i Bovis Construction (Bovis Lend Lease erbyn hyn) yn rheoli prosiectau adwerthu a masnachol mawr ledled y DU.
Paul Barry BSc (Anrh) MCIOB Rheolwr Gyfarwyddwr i Newydd Maintenance Ltd
Cyflog: £80,800. Ymunodd Paul â newydd Maintenance Ltd yn 2019 fel Rheolwr Gyfarwyddwr ac mae'n gyfrifol am ddarparu'r gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw i denantiaid Newydd. Mae Paul wedi gweithio ym maes tai cymdeithasol ers 1996 a chyn ymuno â ni roedd yn Gyfarwyddwr Eiddo i Sedgemoor Homes, lle'r oedd hefyd yn gyfrifol am TGCh. Cyn hynny, roedd Paul yn gweithio mewn rholiau cleient a chontractwr lle'r oedd yn rhan dimau uwch rheoli mewn sefydliadau ledled De Cymru.