Mae cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru yn helpu pobl i brynu cartref pan nad oes digon o gyllid ganddynt i gyfrannu at flaendal morgais. Mae'r cynllun yn helpu tenantiaid mewn eiddo rhent sy'n rhan o'r cynllun i gynilo cyfandaliad tuag at flaendal tra byddant yn rhentu eu cartref. Yna, gall y cyfandaliad tuag at flaendal gael ei ddefnyddio i sicrhau morgais er mwyn prynu cartref.
Sut mae'n gweithio
O ran Rhentu i Berchnogi – Cymru:
cewch gyfle i brynu'r cartref yr ydych yn ei rentu a gallwch gynilo cyfandaliad i gyfrannu at flaendal morgais tra byddwch yn rhentu'r cartref
byddwch yn rhentu'r cartref yn y lle cyntaf, a gallwch gael 25% o'r rhent a dalwyd gennych dros gyfnod y denantiaeth, a 50% o'r cynnydd yng ngwerth yr eiddo (os bydd cynnydd) yn ystod y cyfnod y byddwch yn rhentu'r eiddo – i’w defnyddio fel blaendal i gyfrannu at brynu'r eiddo
bydd eich cytundeb ar gyfer cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru yn para am bum mlynedd. Gallwch wneud cais i brynu eich cartref unrhyw bryd rhwng diwedd yr ail flwyddyn a diwedd y cytundeb.
Pwy sy'n gymwys
I fod yn gymwys ar gyfer cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru:
rhaid i incwm cyfunol eich aelwyd fod yn £60,000 neu lai y flwyddyn
rhaid ichi fod yn gweithio, sydd hefyd yn cynnwys bod yn hunangyflogedig
rhaid ichi beidio â bod yn gymwys ar gyfer budd-dal tai
rhaid ichi beidio â pherchen ar gartref unman arall yn y byd (oni bai bod gorchymyn llys yn eich gorfodi i gael eich cynnwys ar weithred yr eiddo lle bo'r plant yn preswylio)
rhaid ichi beidio â gallu fforddio prynu eiddo sy'n addas at ddibenion maint eich teulu ar y farchnad agored neu drwy unrhyw fenter arall i berchen ar gartref
rhaid ichi allu fforddio rhent yr eiddo a ddewiswyd gennych
rhaid ichi fod yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd yn yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewropeaidd, neu ddinesydd sydd â chaniatâd amhenodol i aros rhaid ichi rentu cartref cymwys
Mae gen i ddiddordeb, beth ydw i'n ei wneud?
Darllenwch mwy am y cynllun Rhentu i Berchnogi - Cymru wrth fynd i wefan Llywodraeth Cymru isod.