Gwaith trwsio

Yn yr adran hon fe welwch wybodaeth am y mathau o atgyweiriadau rydyn ni'n eu gwneud, pa rai sy'n cyfri fel argyfwng a phwy sy'n gyfrifol am rai mathau o atgyweiriadau.

Os oes problem bach yn eich cartref, megis rheiddiadur sydd angen ei waedu neu toiled wedi ei flocio; mae'n siwr o fod fedrwch datrys y broblem eich hun. 

Gwyliwch ein cyfres byr o gyngor cynnal a chadw i helpu gadw eich cartref yn ddiogel.

Cyngor cynnal a chadw #1 - Cyddwysiad

Gall anwedd adael eich cartref teimlo'n llaith ac yn annymunol. Mae sgileffeithiau fwy difrifol hefyd, megis llwydni. Mae llawer o bethau gallu acosi anwedd ar eich waliau a ffenestri, er enghraifft sychu eich dillad, berwi dŵr, cael cawod neu hyd yn oed chwysu yn ystod y nos. Dyma rhai ffyrdd i atal anwedd. 

Darllenwch ein canllaw cyflym am gyddwysiad yma.

Cyngor cynnal a chadw #2 - Pibellau

Gall pibell sydd wedi ei rhewi, wedi ei flocio neu'n diferu achosi difrod difrifol i'ch cartref. Gall wybod sut i ddelio gyda hwn arbed llawer o alar i chi yn y pen draw.

Cyngor cynnal a chadw #3 - Gwaedu rheiddiadur

Os yw eich rheiddiadur yn cynnesu'n anwastad, neu dydyn nhw ddim yn darparu llawer o wres; problem cyffredin yw aer yn cronni. Os dyma yw'r broblem, bydd gwaedu eich rheiddiadur yn datrys y broblem. Dyma sut i wneud hynny.

Cyngor cynnal a chadw #4 - Dod o hyd i offer ddiffygiol

A yw'r pŵer yn diffodd yn gyson? Gallai fod yn un o'ch offer ar fai. Mae ffordd hawdd o benderfynu pa rai o'ch offer sy'n achosi'r broblem, gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut.

Cyngor cynnal a chadw #5 - Pibell wastraff wedi ei flocio 

Os nad yw'r dŵr yn gwagio o'ch bath, sinc neu toiled, mae'n debygol iawn bod yna rhwystr. Fel arfer, mae'n hawdd iawn i glirio rhain.

Cyngor cynnal a chadw #6 - Newid y golau

Mae'n broses syml newid bwlb. Dyma ganllaw cam-wrth-gam ar sut i newid bwlb golau.

Cyngor cynnal a chadw #7 - Dadflocio toiled

Mae'n ddefnyddiol gwybod sut i ddadflocio toiled, gan bod gorlif gallu achosi niwed. Codwch eich plymiwr a chliciwch ar y fideo yma i gychwyn.

Nawr eich bod yn gwybod sut i ddelio gyda'r problemau uchod, cofiwch mai diogelwch sydd wastad fwyaf pwysig. Fedrwch gadael i ni wybod am unrhyw atgyweiriadau mawr neu chymleth drwy ddefnyddio Fy Newydd neu drwy ddefnyddio ein gwasanaeth sgwrsio byw.


Er mwyn cael gwybodaeth am beth i'w wneud mewn argyfwng, cliciwch ar y botwm isod: