Gwybodaeth ddefnyddiol
Yn yr adran yma cewch weld dogfennau corfforaethol, os bydd angen copi mewn fformat gwahanol e.e. print mwy, gadewch i ni wybod fel y gallwn ni ddarparu'r rhain. Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur ben-bwrdd, dewiswch opsiwn ar y chwith. Os ydych yn pori ar declyn symudol, dewiswch 'Polisi Pryderon a Chwynion' neu 'Gwybodaeth Gorfforaethol' o'r gwymplen uchod.
Recite Me: bar offer hygyrchedd y we ac iaith
Mae Recite Me yn feddalwedd gwmwl arloesol sy’n gadael i ymwelwyr weld ein gwefan a’i defnyddio yn y ffordd sy’n gweithio orau iddynt.
Rydym wedi ychwanegu bar offer hygyrchedd y we ac iaith Recite Me i’n gwefan i’w gwneud yn hygyrch ac yn gynhwysol i gynifer o bobl â phosibl.
Mae’n helpu’r un o bob pump o bobl yn y DU sydd ag anabledd, gan gynnwys y rhai sydd â chyflyrau cyffredin fel colli golwg a dyslecsia, i gael mynediad i’r wefan hon yn y ffordd sy’n gweddu orau iddynt.
Mae hefyd yn ateb anghenion yr un o bob deg o bobl yn y DU nad ydynt yn siarad Saesneg fel eu hiaith gyntaf, drwy allu cyfieithu ein cynnwys ar y we i dros 100 o ieithoedd gwahanol.
Sut ydw i’n cael mynediad i’r bar offer Recite Me?
Gallwch agor y bar offer iaith a hygyrchedd Recite Me drwy glicio ar y botwm “Accessibility” ar ein gwefan.
Mae’r botwm “Accessibility” hwn bellach yn ymddangos ar yr ochr chwith ar frig pob tudalen o’n gwefan.
Ar ôl i chi glicio ar y botwm “Accessibility” mae’r bar offer Recite Me yn agor ac yn arddangos amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gyfer addasu sut mae’r wefan yn edrych a sut y gallwch gael mynediad at y cynnwys.
Sut mae Recite Me yn fy helpu i gael mynediad i’r wefan hon?
Mae Recite Me yn helpu pobl i gael mynediad i’n gwefan i wneud y pethau maent angen eu gwneud, fel dod o hyd i wybodaeth am sut i gael mynediad i’n gwasanaeth gwneud cwynion, cael gafael ar gyhoeddiadau, a darllen newyddion.
Mae gan y bar offer Recite Me ystod unigryw o swyddogaethau. Gallwch ei ddefnyddio:
- i gael y testun ar ein gwefan wedi ei ddarllen yn uchel (gan gynnwys PDFs)
- i lawrlwytho’r testun fel ffeil MP3 i’w chwarae lle a phryd sy’n addas i chi
- i newid maint a lliw ffontiau
- i addasu lliw cefndir
- i gyfieithu testun i dros 100 o wahanol ieithoedd
- i gael gafael ar eiriadur a thesawrws cwbl integredig.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Recite Me yn gweithio cliciwch yma: canllaw defnyddwyr Recite Me
Ydi’n bosib cael cymorth gyda Recite Me?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Recite Me cysylltwch â ni drwy e-bost ar: marketing@newydd.co.uk