Posted 13.05.2026

Newyddion: Eich Cylchlythyr Mis Mai

Croeso i Newyddion! Dyma beth allwch ei ddarllen yn rhifyn y mis hwn

  • Cadarn, Cadwyn a Newydd: Ein Henwau Brand
  • Ein Tîm Rhenti Integredig Newydd
  • Deddf Hawliau Rhentwyr: Beth Mae’n ei Olygu i Chi
  • Cwestiwn y Mis
  • A Dyma’r Canlyniadau...: CYM Ebrill
  • Rydym yn Recriwtio
  • 15 Gorffennaf: Sut i Gysylltu â Ni Tra Bod ein Tîm Profiad Cwsmeriaid i Ffwrdd

Cadarn, Cadwyn a Newydd: Ein Henwau Brand

O fis Mehefin, efallai y byddwch yn sylwi bod rhai e-byst, negeseuon testun a chyfathrebiadau eraill gennym ni atoch yn dod o gyfeiriadau a brandiau gwahanol ar draws Grŵp Cadarn. Efallai y byddwch yn derbyn negeseuon gan neu’n cyfeirio at Cadarn, Newydd neu Cadwyn – mae pob un yn rhan o Grŵp Tai Cadarn. 

Mae hyn yn normal gan fod rhai o’n gwasanaethau a’n systemau yn cael eu rhannu. Mae’r tri enw yn ddilys, ac rydym yn gweithio gyda’n gilydd fel sefydliadau i gynnig y gwasanaeth gorau posibl i chi. 

Bydd Newydd yn parhau i fod yn eich landlord, ac ni fydd hyn yn newid. 

Os ydych yn ansicr ynghylch a yw cyswllt yn ddilys, mae croeso i chi wirio drwy gysylltu â ni ar 0303 040 1998 neu ymholiadau@newydd.co.uk.


Ein Tîm Rhenti Integredig Newydd

Cadarn is pleased to introduce our new integrated Rents Team, bringing together colleagues from across our housing services to provide a more consistent and supportive experience for tenants. 

The new structure has been designed to strengthen early support, improve communication, and help us work more proactively with anyone experiencing difficulties with rent payments or financial pressures. 

Discover more about what this means for you in practice here.


Deddf Hawliau Rhentwyr: Beth Mae’n ei Olygu i Chi

Efallai eich bod wedi gweld straeon yn y newyddion am Ddeddf Hawliau Rhentwyr. Mae’r Ddeddf hon yn effeithio’n bennaf ar denantiaethau yn Lloegr, ond rydym am roi gwybod i chi am un newid penodol sy’n effeithio arnoch chi fel Deiliad Contract gyda Newydd. 

O 1 Mehefin 2026, bydd yn erbyn y gyfraith i: 

  • landlordiaid wrthod rhywun am gartref, neu wahaniaethu yn eu herbyn dim ond oherwydd bod ganddynt blant neu oherwydd eu bod yn derbyn budd-daliadau, megis Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai. 

Byddwn yn ysgrifennu at bob aelwyd i amlinellu’r cymalau newydd i’ch cytundeb, ond gallwch ddysgu mwy am y newidiadau drwy glicio ar y ddolen isod.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy.


Cwestiwn y Mis

Dyma gyfle arall i ennill taleb siopa gwerth £25 drwy ateb ein Cwestiwn y Mis! Yn syml: 

  1. Cliciwch ar y ddolen isod 
  2. Atebwch gwestiwn y mis hwn 
  3. Rhowch eich manylion cyswllt 
  4. A dyna ni! Rydych yn y raffl i ennill y taleb £25! 

Y mis hwn, rydym eisiau gwybod: “Beth allwn ni ei wneud i’w gwneud yn haws i chi adael i ni ddod i mewn i’ch cartref ar gyfer gwiriadau diogelwch, fel gwiriadau nwy neu drydan?”   

A darllenwch ymlaen isod i weld canlyniadau cwestiwn y mis diwethaf a phwy enillodd y talebau £25.

Cliciwch yma i ateb Cwestiwn y Mis Mai.


Ac Mae'r Canlyniadau Yma...: CYM Ebrill

Diolch i bawb a gymerodd amser ateb Cwestiwn y Mis ar gyfer mis Ebrill pan ofynnom, “Ydych chi’n teimlo eich bod yn cael cyfleoedd i leisio’ch barn ar benderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud?” 

Dyma’r canlyniadau: 

Ie  61% 

Na 13% 

Weithiau  17% 

Ansicr   9% 

A’r enillwyr o’r talebau siopa gwerth £25 am ateb y cwestiynau yw Stuart o'r Bont-faen ac Adele o Gaerdydd. Llongyfarchiadau! 

Mae eich adborth yn dangos bod llawer o denantiaid yn teimlo eu bod yn gallu lleisio eu barn, tra hefyd yn dangos bod angen i ni wneud cyfranogiad yn gliriach ac yn haws i bawb.   

Ffyrdd o gymryd rhan – yn addas i chi 

Rydym yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i gymryd rhan, yn dibynnu ar faint o amser neu ymrwymiad yr hoffech ei roi. Cliciwch ar y botwm Strwythur Cynnwys Tenantiaid isod i weld y gwahanol opsiynau sydd ar gael.   Nid oes un dull sy’n addas i bawb. P’un a allwch roi ychydig funudau neu os ydych am chwarae rhan fwy, mae cyfleoedd ar gael i weddu i chi. 

Cysylltwch â ni os hoffech gymryd rhan. 

Cliciwch ymai weld y Strwythur Cynnwys Tenantiaid.


Ni'n Recriwtio

Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer nifer o rolau cyffrous ar draws Grŵp Cadarn. A yw un o’r rhain yn swnio fel y swydd i chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod? Cliciwch y ddolen isod am ragor o wybodaeth. 

Cynlluniwr Cynnal a Chadw

Manylion y cyflog: £27,551 - £29,001

Dyddiad cau: 19 Mai 2026 

Swyddog Ystadau

£26,177 - £27,554

25 Mai 2026

Goruchwyliwr Cynnal a Chadw

£43,263 - £45,540 

31 Mai 2026 

Gwelwch ein swyddi gwag presennol ar ein gwefan yma.


15 Gorffennaf: Sut i Gysylltu â Ni Tra Bod ein Tîm Profiad Cwsmeriaid i Ffwrdd

Ni fydd ein Tîm Profiad Cwsmeriaid ar gael ddydd Mercher 15 Gorffennaf. Ond paid â phoeni! Rydym yn dal yma i’ch helpu os bydd argyfwng.

Ar y diwrnod hwn, os bydd mater brys yn codi na all aros, bydd ein llinellau ffôn arferol yn eich ailgyfeirio at ein contractwr tu allan i oriau Delta, neu gallwch gysylltu â nhw drwy gwblhau’r ffurflen yn y ddolen isod.

Fel arall, os nad yw’n argyfwng, gadewch e-bost i ni ar ymholiadau@newydd.o.uk a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.

Cysylltwch â Delta drwy e-bost tu allan i oriau yma.

Newyddion diweddaraf