Newyddion: Eich Cylchlythyr Mis Tachwedd
Croeso i Newyddion! Dyma beth allwch chi ei ddarllen yn rhifyn y mis hwn:
- Cadarn Yn Penodi Aelodau Bwrdd Newydd
- Cwestiwn y Mis: Atebwch am Gyfle i Ennill Taleb £25
- Canlyniadau Cwestiwn y Mis Hydref
- Pwy i Gysylltu Gyda Mewn Argyfwng
- Sut i Roi Gwybod am Llaith ac Anwedd
- Ni'n Recriwtio
- Gweithredu yn Erbyn Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
- Ap MyNewydd
Cadarn yn Penodi Aelodau Newydd i’r Bwrdd
Mae Grŵp Tai Cadarn (sef y sefydliad rhiant i Gymdeithasau Tai Cadwyn a Newydd) yn falch o groesawu Mandy Garrett, Steve Porter, Craig O’Donnell a John Rees fel Aelodau newydd o’r Bwrdd.
Mae ein Haelodau Bwrdd newydd yn dod â chyfoeth o brofiad o bob rhan o’r sector tai cymdeithasol a byddant yn ein helpu i barhau i ddarparu gwasanaethau rhagorol i’n tenantiaid a’n cymunedau.
Mae’r penodiadau hyn yn dilyn recriwtio Debbie Green yn ddiweddar yn Gadeirydd y Grŵp ym mis Medi.
Darganfyddwch fwy am ein holl Aelodau o’r Bwrdd yma.
Cwestiwn y Mis: Atebwch am Gyfle i Ennill Taleb £25
Dyma gyfle arall i ennill taleb siopa gwerth £25 drwy ateb ein Cwestiwn Cyflym y Mis. Mae’n hawdd!
- Cliciwch ar y ddolen isod
- Atebwch ein harolwg 2 funud
- Rhowch eich manylion cyswllt i gael eich cynnwys yn y raffl wobrwyo
- Dyna ni!
Y mis hwn, hoffem wybod:
- Ydych chi’n gwybod sut i wneud cais am dŷ cymdeithasol arall pe baech am symud?
- Pe gallech gael cyflenwad diderfyn o UN danteithyn am fis cyfan Tachwedd, pa un fyddech chi’n ei ddewis?
Darllenwch ymlaen isod i weld canlyniadau Cwestiwn y Mis diwethaf a phwy oedd yr enillwyr lwcus a gafodd y talebau £25.
Cliciwch yma i ateb cwestiwn y mis hwn.
Canlyniadau Cwestiwn y Mis Hydref
Ym mis Hydref, gofynnom: “Y llynedd, faint ydych chi’n meddwl wnaethom ei wario ar glirio tipio anghyfreithlon, sbwriel a adawyd yn y lle anghywir, ac ailgylchu wedi’i halogi?”
Da iawn i’r 41% o ymatebwyr a atebodd yn gywir mai £143,000 (£392 y dydd) oedd y swm.
Mae tipio anghyfreithlon yn creu cymdogaethau blêr, yn achosi risgiau, ac yn costio arian i’w waredu.
Rydym yn archwilio ein hystadau’n rheolaidd i ddarganfod a chlirio gwastraff sydd wedi’i adael yn anghyfreithlon, ac yn gweithio gyda phartneriaid i weithredu yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol am dipio anghyfreithlon a phroblemau amgylcheddol eraill.
Gallwch chi helpu hefyd. Gwaredwch sbwriel ac eitemau swmpus yn gyfrifol, a rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl os byddwch yn gweld tipio anghyfreithlon.
A’r enillwyr yw…llongyfarchiadau i Christina ym Mharri a Sharon yng Nghaerdydd ar ennill talebau gwerth £25 yn raffl Hydref.
Cofiwch ateb y cwestiwn y mis diweddaraf uchod am eich cyfle i ennill ym mis Tachwedd.
Pwy i Gysylltu Gyda Mewn Argyfwng
Gyda’r gaeaf yn agosáu, gall newidiadau yn y tywydd achosi difrod difrifol i’ch cartref a chreu sefyllfaoedd brys.
Mae enghreifftiau o argyfyngau yn y cartref fel arfer yn cynnwys:
- llifogydd difrifol;
- gollyngiadau nwy;
- difrod strwythurol;
- difrod gan dân;
- diffyg gwres mewn tywydd oer iawn; neu
- beryglon eraill sy’n peri risg uniongyrchol.
Os oes perygl i fywyd, dylech ffonio 999 ar unwaith.
I roi gwybod am atgyweiriad brys yn eich cartref, cysylltwch â ni ar 0303 040 1998 neu drwy e-bostio ymholiadau@cadarn.co.uk.
Pan fydd ein Llinell Profiad Cwsmeriaid ar gau am y dydd, gallwch barhau i ffonio 0303 040 1998 i siarad â gweithredwyr ein gwasanaeth y tu allan i oriau, Delta. Os nad yw’n bosib cysylltu gyda Delta dros y ffon, gallwch gysylltu gyda nhw ar-lein yma.
Sut i Roi Gwybod am Llaith ac Anwedd
Rydym am i’n holl denantiaid fyw mewn cartref diogel, cynnes ac iach.
Gall lleithder, llwydni ac anwedd effeithio ar eich cartref ac, mewn rhai achosion, ar eich iechyd.
Pan fyddwch yn rhoi gwybod am broblem lleithder neu lwydni, byddwn yn:
- Cymryd eich pryderon o ddifrif;
- Ymchwilio i achos y broblem;
- Trefnu unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol sy’n gyfrifoldeb arnom ni;
- Darparu cyngor a chymorth i helpu i atal anwedd a llwydni rhag dychwelyd.
Mae rhoi gwybod am broblemau’n gynnar yn ein helpu i nodi’r achos a chymryd camau cyn gynted â phosibl.
Cysylltwch â ni yma i roi gwybod am unrhyw broblemau anwedd.
Dysgwch ragor am anwedd yma.
Ni'n Recriwtio
Rydym yn awyddus i ehangu ein tîm er mwyn darparu cartrefi a chymunedau hyd yn oed yn well i’n tenantiaid! Oes un o’r swyddi isod yn gyfle addas i chi neu rywun rydych yn ei adnabod? Cliciwch ar deitl y swydd neu’r ddolen isod.
Swyddog Ystadau (35 awr yr wythnos / contract cyfnod penodol tan 31 Mawrth 2027)
Cyflog: £26,177 - £27,554
Dyddiad Cau: Dydd Sul, 8 Tachwedd
Gweithiwr Amlfedrus (35 awr yr wythnos / parhaol)
Cyflog: £31,069 - £32,704
Dyddiad Cau: Dydd Gwener, 6 Tachwedd
Cliciwch yma i weld ein swyddi gwag presennol.
Gweithredu Ar Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
Rydym yma i helpu os mae ymddygiad gwrthgymdeithasol (YGG) yn effeithio arnoch chi.
Mae YGG yn cynnwys enghreifftiau ailadroddus o ymddygiad fel camdriniaeth lafar, bygythiadau, brawychu, sŵn gormodol, tipio anghyfreithlon, delio cyffuriau, neu droseddau casineb.
Os byddwch yn rhoi gwybod am achosion o YGG, mae angen eich help arnom er mwyn i ni allu eich helpu chi. Mae'n anodd iawn datrys cwynion dienw, ac mae'n debygol y bydd angen cofnod neu dystiolaeth o ddigwyddiadau arnom, yn hytrach nag adroddiadau cyffredinol.
Mae hefyd yn bwysig cofio, er y gall ymddygiad rhywun fod yn annifyr, nad yw hynny o reidrwydd yn YGG. Er enghraifft, parti untro neu sŵn arferol yn y cartref, fel babi'n crio.
Darganfyddwch fwy am YGG yma.
Ap MyNewydd

Mae ap MyNewydd yn ei gwneud hi’n gyflym ac yn hawdd i reoli eich tenantiaeth pryd bynnag sy’n gyfleus i chi. Gallwch:
- Wirio balans eich rhent;
- Rhoi gwybod am ddigwyddiadau a phroblemau ar-lein;
- Diweddaru eich manylion cyswllt;
- Cael mynediad at wasanaethau 24 awr y dydd.
Nid oes angen aros ar y ffôn yn ystod cyfnodau prysur, a gallwch gysylltu â ni y tu allan i oriau swyddfa pan fo hynny’n gyfleus i chi.
Dysgwch ragor am MyNewydd yma.
Cliciwch yma i ddarganfod sut i ychwanegu MyNewydd at sgrin gartref eich ffôn.





