Diweddariad cyflym am eich Cytundeb Meddiannaeth
Efallai eich bod wedi gweld straeon yn y newyddion am Ddeddf Hawliau Rhentwyr. Rydym am roi gwybod i chi am un newid penodol sy’n effeithio arnoch chi fel Deiliad Contract gyda Newydd.
O 1 Mehefin 2026, bydd yn erbyn y gyfraith i landlordiaid wrthod rhywun am gartref, neu wahaniaethu yn eu herbyn, dim ond oherwydd bod ganddynt blant neu oherwydd eu bod yn derbyn budd-daliadau, fel Credyd Cynhwysol neu Fudd-dal Tai. Bydd cymalau newydd yn cael eu hychwanegu at Gytundeb Meddiannaeth pawb o 1 Mehefin i gadarnhau’r newidiadau hyn, a byddwn yn ysgrifennu at bob Deiliad Contract yn unigol erbyn 14 Mehefin 2026 i’w hysbysu’n ffurfiol. Does dim angen i chi wneud unrhyw beth gyda’r llythyr pan fydd yn cyrraedd heblaw ei gadw’n ddiogel gyda’ch Cytundeb Meddiannaeth. Does dim byd arall yn newid gyda’ch Cytundeb Meddiannaeth.
Er gwaethaf y newidiadau hyn, gall landlordiaid barhau i:
- Wirio bod ymgeiswyr newydd yn gallu fforddio’r rhent cyn iddynt gael cynnig cartref newydd, a chael geirdaon gan landlordiaid blaenorol,
- Gwrthod gosod cartref i unigolion neu deuluoedd os nad yw’n addas mewn gwirionedd (er enghraifft, oherwydd ei fod yn rhy fach neu’n rhy fawr neu os oes cyfyngiadau cynllunio eraill ar waith),
- Cael llety ar gyfer pobl hŷn neu lety sydd wedi’i ddynodi yn ôl oedran nad yw’n caniatáu plant, os yw’r cyfyngiad oedran yn hyrwyddo ac yn cefnogi anghenion neu ofynion penodol pobl hŷn,
- Cael rhai eiddo neu gynlluniau penodol lle nad yw plant yn cael eu caniatáu oherwydd natur anaddas yr eiddo neu oherwydd y gwasanaethau ehangach a ddarperir yn y cynllun hwnnw.
Os hoffech drafod y newidiadau’n fanylach, cysylltwch â ni ar 0303 040 1998 neu enquiries@newydd.co.uk.

