Sut i ymgeisio am gartref cymdeithasol gwahanol
Os hoffech symud i gartref tai cymdeithasol arall, dyma beth sydd angen i chi ei wneud:
Penderfynwch ble hoffech fyw - Yn gyntaf, dewiswch yr ardal neu'r sir yr hoffech symud iddi.
Ymunwch â'r gofrestr dai ar gyfer yr ardal honno - Fel arfer, bydd angen i chi wneud cais i'r cyngor neu'r Gofrestr Dai Gyffredin ar gyfer yr ardal rydych wedi'i dewis. Nid oes gennym ein rhestr aros ein hunain ar gyfer pob ardal. Yn hytrach, gall cynghorau enwebu pobl ar gyfer rhai o'n cartrefi gwag.
Rhowch wybod am eich anghenion tai - Pan fyddwch yn gwneud cais, rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch am eich sefyllfa. Gallai hyn gynnwys:
- problemau gyda'ch cartref presennol
- anghenion lles neu gymorth
- unrhyw beth arall sy'n esbonio pam mae angen i chi symud
Bydd y wybodaeth hon yn helpu'r cyngor i benderfynu faint o flaenoriaeth y dylech ei chael.
Nid yw ymuno â'r gofrestr dai yn golygu y byddwch yn bendant yn cael cynnig cartref. Bydd hyn yn dibynnu ar eich anghenion, eich amgylchiadau a'r cartrefi sydd ar gael.
Byddwch mor hyblyg ag y gallwch - Os gallwch ystyried gwahanol ardaloedd neu fathau o gartrefi, efallai y bydd gennych fwy o siawns o ddod o hyd i eiddo addas.
Gwiriwch beth sydd angen i chi ei wneud nesaf - Mae pob cyngor yn gweithio ychydig yn wahanol. Mewn rhai ardaloedd, efallai y bydd angen i chi fynegi diddordeb mewn cartrefi sydd ar gael. Gwiriwch gyda'r cyngor rydych wedi gwneud cais iddo fel eich bod yn gwybod beth sydd angen i chi ei wneud.
Ble i wneud cais?
- Rhondda Cynon Taf: Cartref - Ceisio Cartref RhCT
- Bro Morgannwg: Homes4U
- Powys: https://cy.powys.gov.uk/article/2657/Gwneud-cais-am-dy-cymdeithasol?ccp=true#cookie-consent-prompt
- Caerdydd: Ffurflen gais am dai
- Y Mill, Treganna: Gwneud cais i rentu yn Y Mill. Mae'r galw'n uchel, felly efallai y bydd angen i chi hefyd ymuno â Chofrestr Dai Gyffredin Cyngor Caerdydd.
- Caerffili: Defnyddio'r gwasanaeth - Caerffili
- Castell-nedd Port Talbot: E-bostiwch ymholiadau@cadarn.co.uk a byddwn yn anfon ffurflen gais atoch.

