Posted 26.02.2019

Fy Newydd, popeth ar flaenau’ch bysedd

Wedi ei lansio ym mis Chwefror 2018, mae Fy Newydd yn caniatáu i denantiaid i fewngofnodi a rheoli eu cartrefi yn ddiogel, ac yn dangos balans eu rhent, crynodeb o drafodiadau diweddar a chofnod y gallan nhw ei argraffu o’u cyfriflen rhent.

Mae nodweddion eraill yn cynnwys gwirio a rhoi gwybod am waith atgyweirio unigol a chymunedol ar gyfer eu cartref, ychwanegu aelodau teulu newydd i’r denantiaeth, archebu cerdyn talu rhent, ac anfon neges at Newydd.

Dywedodd Eleanor Chard, Pennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid Newydd, “Rydym eisiau darparu profiad ar-lein hawdd a chyflym i’n tenantiaid. Ni waeth lle ydych chi, ar y bws, yn eich ystafell fyw neu yn y swyddfa, byddwch yn medru defnyddio Fy Newydd ar eich ffôn symudol, cyfrifiadur bwrdd gwaith neu dabled.”

“Mae’n cynnig nifer o fuddion ymarferol hefyd – dim angen aros ar y ffôn yn ystod cyfnodau prysur, y gallu i roi gwybod i ni am ddigwyddiadau y tu allan i oriau gwaith, medru gwirio eich balans rhent yn gyflym, a newid rhif cyswllt heb ddim ffws. Mae ein gwasanaethau nawr ar gael 24 awr y dydd.”

I gofrestru am gyfrif Fy Newydd ewch i mynewydd.co.uk.

Newyddion diweddaraf