Newyddion: Eich cylchlythyr mis Ebrill
Croeso i Newyddion. Dyma gipolwg o'r hyn gallwch weld yn y cylchlythyr hwn:
- Cwestiwn y Mis Ebrill - atebwch am gyfle i ennill taleb £25
- Cwestiwn y Mis - A'r canlyniadau yw...
- Gwelliannau i'n gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw
- Sylweddoli Eich Potensial
- Gweithdy ar-lein newydd sy'n edrych ar ddiwedd oes batris dyfeisiau
Cwestiwn y Mis Ebrill - Atebwch Am Gyfle I Ennill Taleb £25

Dyma gyfle arall i ennill taleb £25 drwy ateb Cwestiwn y Mis ar gyfer Ebrill! Mae’n syml ac yn cymryd dim ond 2 funud i’w gwblhau.
Mae eich ymatebion yn ein helpu i lunio’r gwasanaeth a ddarparwn i chi, ac yn ein galluogi i ddeall sut mae trigolion yn teimlo’n gyffredinol. Bob mis, byddwn yn adrodd ar eich adborth ac yn eich hysbysu am y camau rydym yn eu cymryd. Gallwch ddarllen hyn yn yr adran nesaf.
Y mis hwn, rydym eisiau gwybod:
- A ydych yn teimlo eich bod yn cael cyfleoedd i leisio’ch barn yn y penderfyniadau a wnawn?
- A wnaeth unrhyw un eich twyllo gyda jôc Ffŵl Ebrill eleni?
Cliciwch yma i ateb cwestiwn y mis hwn
Cwestiwn y Mis: A'r canlyniadau yw...
Diolch i bawb sydd wedi ateb ein Cwestiwn y Mis. Hyd yma, mae dros 150 o bobl wedi cymryd amser i rannu eu barn. Mae eich ymatebion yn ein helpu i lunio’r gwasanaeth a ddarparwn i chi, ac yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o sut mae trigolion yn teimlo’n gyffredinol.
Gofynnodd cwestiwn y mis diwethaf: “Mae Cymdeithasau Tai yn darparu llawer o wasanaethau. Pa un sydd bwysicaf i chi?”
Y ddau ateb uchaf oedd:
- Atgyweirio a chynnal eich cartref
- Gofalu am ardaloedd cymunedol eich ystâd
Parhewch i ddarllen yn yr adran nesaf i gael gwybod sut rydym yn gweithio i ddarparu gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw gwell i’n tenantiaid.
Dywedoch chi, gwnaethm ni: Gwella’r Gwasanaeth Atgyweirio
Fe ddywedoch fod atgyweiriadau a chynnal a chadw ymhlith y gwasanaethau pwysicaf rydym yn darparu — a’ch bod eisiau iddynt fod yn gyflymach, yn fwy dibynadwy, ac yn cael eu gwneud yn iawn y tro cyntaf.
Rydym wedi gwrando ac yn gwneud gwelliannau ar draws Grŵp Cadarn.
Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant mewnol i ddarparu gwasanaeth mwy cyson, creu un tîm atgyweirio i ymateb yn gyflymach i’ch atgyweiriadau, gwella ein cyfathrebu â chi, a llawer mwy.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Sylweddoli Eich Potensial

Yn chwilio am swydd newydd, eisiau cynyddu’ch incwm, neu ennill y dyrchafiad breuddwydiol hwnnw?
Mae Sylweddoli Eich Potensial yn wasanaeth am ddim i denantiaid Newydd, sydd wedi’i gynllunio i helpu i ddatblygu a gwneud y gorau o’ch potensial cyflogaeth.
Gall ein tîm eich cefnogi gyda phob agwedd ar ddatblygu sgiliau, ennill profiad, dod o hyd i waith, neu ganfod cyfleoedd gwirfoddoli neu hyfforddiant sydd o ddiddordeb i chi. Mae’r cymorth a ddarparwn yn cynnwys:
- Dod o hyd i waith
- Gwirfoddoli
- Hyfforddiant
- Cymorth yn y gwaith
- Credyd Cynhwysol
- A llawer mwy!
Am ragor o wybodaeth neu gefnogaeth, anfonwch e-bost at employmentsupport@cadarn.co.uk
Gweithdy ar-lein newydd i drafod diwedd oes batris dyfeisiau - taleb £20 am gymryd rhan

Ydych chi erioed wedi poeni am yr hyn sy'n digwydd i'r batris yn eich ffôn, gliniadur, neu gar trydan pan fyddant yn marw?
Rydym ni’n partner gyda’r Brifysgol Agored i hysbysebu grŵp ffocws newydd i ymateb i’r broblem, gyda chyfranogwyr yn derbyn taleb shopa £20 am gyfrannu.
Bydd pob grŵp ffocws yn cynnwys trafodaeth dan arweiniad gyda grŵp bach o gyfranogwyr a bydd yn para tua 90 munud ar-lein ar Microsoft Teams.
Cliciwch un o’r dyddiadau isod i ddarganfod mwy am y sesiwn.
Dydd Mercher 13 Mai, 2pm-3.30pm (Iaith Gymraeg)
Dydd Iau 14 Mai, 11am-12.30pm (Iaith Saesneg)
Dydd Mawrth 19 Mai, 10.30am-12pm (Iaith Saesneg)


