Dywedoch chi, gwnaethom ni...

Dywedoch chi fod atgyweiriadau a chynnal a chadw ymhlith y gwasanaethau pwysicaf rydym yn eu darparu — a’ch bod eisiau iddynt fod yn gyflymach, yn fwy dibynadwy, ac yn cael eu gwneud yn iawn y tro cyntaf. Rydym wedi gwrando ac yn gwneud gwelliannau ar draws Grŵp Cadarn.
Dywedoch chi: Gall atgyweiriadau deimlo’n araf ac yn dameidiog Gwnaethom ni: Gyflwyno un gwasanaeth atgyweirio unedig ar draws y Grŵp, sy’n ein helpu i drefnu gwaith atgyweirio’n fwy effeithlon ac ymateb yn gynt pan fyddwch yn rhoi gwybod am broblem.
Dywedoch chi: Nad oes digon o staff bob amser Gwnaethom ni: Ehangu ein tîm mewnol a chyflogi mwy o grefftwyr medrus i leihau amseroedd ymateb a gwella cysondeb.
Dywedoch chi: Eich bod eisiau gwasanaeth cyson ac atebolrwydd Gwnaethom ni: Ddod â mwy o staff atgyweirio’n yn fewnol. Bydd y rhan fwyaf o staff atgyweirio bellach yn gweithio fel un tîm Grŵp Cadarn, gan ganolbwyntio ar yr un safonau a gwasanaeth cwsmeriaid. Byddwn yn defnyddio is-gontractwyr pan fo angen gwaith arbenigol neu pan fydd cynnydd annisgwyl mewn atgyweiriadau sy’n golygu bod angen cefnogaeth ar ein timau mewnol.
Dywedoch chi: Y dylid trwsio atgyweiriadau’n iawn y tro cyntaf Gwnaethom ni: Fuddsoddi mewn hyfforddiant a sgiliau mewnol i wella’r broses o ddiagnosio atgyweiriadau pan gânt eu hadrodd i ni, gyda llai o ddibyniaeth ar is-gontractwyr.
Dywedoch chi: Eich bod eisiau safonau clir a gwell cyfathrebu Gwnaethom ni: Dechrau adolygu safonau gwasanaeth gyda mewnbwn gan denantiaid i helpu i lunio’r ffordd y caiff atgyweiriadau eu darparu.
Dywedoch chi: Eich bod eisiau gwybod pwy sy’n dod i’ch cartref Gwnaethom ni: Gyflwyno un system atgyweirio, gwisgoedd unffurf cyson, cerbydau gwell ac offer gwell. Mae ein timau’n cario bathodynnau adnabod priodol a byddant yn hawdd eu hadnabod ac wedi’u cyfarparu’n well i wneud y gwaith yn dda. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, ffoniwch ni ar Newydd 0303 040 1998 / Cadwyn 02920 498898 a gallwn gadarnhau bod yr unigolyn yn eich cartref yn wirioneddol yn gweithio i ni.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Mae llawer o welliannau eisoes ar y gweill, gyda’r rhan fwyaf yn cael eu rhoi ar waith erbyn mis Mehefin 2026, a newidiadau pellach yn parhau drwy gydol y flwyddyn. Byddwn yn parhau i rannu diweddariadau wrth i bethau fynd rhagddynt.
Mae rhagor o welliannau ar y ffordd a byddwn yn parhau i rannu’ch adborth — mae’n chwarae rhan bwysig wrth lunio’r hyn a wnawn. Os hoffech gymryd rhan mewn helpu i lunio’r gwasanaethau rydych yn eu derbyn, cysylltwch â’n Swyddog Ymgysylltu Tenantiaid a Chymunedau, Laeti, ar laetitia.davies@cadarn.co.uk.

