Posted 05.11.2024

Beth ydy Cadwyn yn ymuno â Grŵp Tai Cadarn yn ei olygu i denantiaid?

O 1 Tachwedd 2024, mae Cymdeithas Tai Cadwyn wedi ymuno’n swyddogol â Grŵp Tai Cadarn (a elwid yn Grŵp Newydd yn flaenorol) ochr yn ochr â Chymdeithas Tai Newydd. Bydd Newydd a Cadwyn yn gweithredu ar wahân o fewn Grŵp Tai Cadarn tra’n gweithio gyda’i gilydd drwy rannu gwybodaeth ac adnoddau i wasanaethu ein cymunedau’n well.

Mae’r bartneriaeth hon yn gam mawr wrth i ni ddathlu carreg filltir newydd yn hanes y grŵp wrth i ni ddathlu ein penblwydd yn 50 oed. Drwy gydweithio, bydd Cadwyn a Newydd yn gryfach yn ariannol, gan ganiatáu i ni ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy a gwella eiddo presennol. 

Beth fyddai hyn yn ei olygu i denantiaid?

  • Ychydig iawn o newid fyddai i chi yn ymarferol. Ni fyddai unrhyw drosglwyddo perchnogaeth eich cartref nac unrhyw newid i delerau eich tenantiaeth o ganlyniad i Cadwyn yn dod yn aelod o Grŵp Cadarn.
  • Bydd eich landlord a'r holl wasanaethau a gewch yn aros yr un fath. Hoffem sicrhau ein cwsmeriaid a’n preswylwyr y bydd ein gwasanaethau’n parhau fel arfer.
  • Bydd y ffordd y caiff eich rhent ei osod yn aros yr un fath ac yn parhau i fod yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Pam ydym ni'n gwneud hyn?

  • Gall y ddwy gymdeithas tai rannu costau, arbenigedd a bod yn fwy effeithlon, gan arwain at well gwerth am arian y gellir ei ddefnyddio i wella'r gwasanaethau a gewch.
  • I gyfuno cryfderau, timau ac arbenigedd pob sefydliad i hybu ein gwasanaeth cwsmeriaid cyffredinol i chi.
  • I barhau i fuddsoddi mewn datblygu a gwella ein gwasanaeth atgyweirio eiddo.
  • Byddwch yn gallu cael mynediad at fentrau ychwanegol megis ailgylchu dodrefn, cyflogaeth a chymorth digidol.
  • Bydd mwy o gyfleoedd i chi gymryd rhan yn yr hyn a wnawn.

Beth yw manteision Cadwyn yn dod yn is-gwmni i Grŵp Cadarn?

Drwy ehangu’r busnes, gallwn rannu adnoddau a sgiliau a dod yn fwy effeithlon, a fydd yn rhyddhau arian i fuddsoddi yn ein cartrefi a datblygu gwasanaethau. Bydd ychwanegu Cadwyn fel aelod newydd o Grŵp Cadarn hefyd yn cynyddu gwydnwch ariannol y ddau sefydliad ac yn gwella ein gallu i barhau i ddarparu tai fforddiadwy, er gwaethaf yr amgylchedd allanol heriol hwn.

A oes unrhyw anfanteision yn gysylltiedig â Cadwyn yn dod yn aelod o Grŵp Cadarn?

Rydym wedi edrych yn ofalus ar oblygiadau’r cynnig hwn a thrwy broses a elwir yn ddiwydrwydd dyladwy byddwn yn sicrhau na fydd Cadwyn yn dod yn aelod o’r Grŵp yn cael unrhyw effaith negyddol ar Grŵp Cadarn a’i breswylwyr.

A fyddai fy landlord/rhydd-ddeiliad yn newid?

Na, byddai eich landlord yn aros yr un fath gan y byddai'r ddau sefydliad yn parhau i fod yn endidau cyfreithiol ar wahân, dim ond bod Cadwyn yn dod yn aelod o Grŵp Cadarn. Ni fyddai amodau eich tenantiaeth neu brydles yn newid o ganlyniad i’r strwythur arfaethedig, a byddai gennych yr un lefel o hawliau ac amddiffyniad ag sydd gennych nawr.

A fydd hyn yn effeithio ar fy rhent neu dâl gwasanaeth?

Na, ni fydd y strwythur newydd yn effeithio ar eich rhent na’ch tâl gwasanaeth. Byddem yn parhau i adolygu taliadau bob blwyddyn, fel yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd, yn unol â'ch cytundeb tenantiaeth neu brydles gyfredol.

A fydd newid yn y ffordd yr wyf yn talu?

Ni fydd unrhyw newid a byddech yn gallu parhau i dalu fel y gwnewch nawr.

A fydd fy nghontractwyr atgyweiriadau, cynnal a chadw tiroedd neu lanhau yn newid?

Ni fydd unrhyw newid o ganlyniad i Cadwyn yn ymuno â Grŵp Cadarn. Fodd bynnag, os byddwn yn gallu gwneud arbedion effeithlonrwydd, er enghraifft, ar ôl integreiddio Cadwyn i'r Grŵp, byddwn yn rhoi gwybod i chi.

A fyddai gennyf yr un cyswllt yng Nghymdeithas Tai Newydd (e.e. fy Swyddog Tai)?

Byddai Cymdeithas Tai Newydd yn cadw rheolaeth ar eich cartref, byddai gwasanaethau'n cael eu darparu yn yr un modd gan yr un bobl. Wrth i ni gyflwyno gwelliannau dros amser gall hyn newid a byddwn yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael gwybod os oes unrhyw gysylltiadau newydd.

A fydd sut rwy’n cysylltu â chi yn newid?

Nid ydym yn bwriadu newid manylion cyswllt Cymdeithas Tai Newydd na Grŵp Cadarn felly bydd y rhain yn aros yr un fath.

Os oes gennych chi unrhyw cwestiynau, e-bostiwch: partnership@newydd.co.uk

Newyddion diweddaraf