Posted 10.11.2025

Newyddion: Eich Cylchlythyr Mis Tachwedd

Croeso i Newyddion. Dyma gipolwg ar beth gallwch ddisgwyl yn y cylchlythyr yma:

  1. Barod I Sylweddoli Eich Potensial? Cefnogaeth Cyflogadwyedd O Newydd

  2. Helpwch Lunio Help Rhentu Yng Nghymru - Arolwg TPAS Cymru

  3. Wythnos Siarad Am Arian 2025

  4. Wythnos Ewch Ar-lein

  5. Ydych Chi Wedi Diogelu Eich Eiddo Gydag Yswiriant Eiddo Cartref?

Barod I Sylweddoli Eich Potensial? Cefnogaeth Cyflogadwyedd O Newydd

A wyddoch chi ein bod yn cynnig cymorth cyflogaeth am ddim i’n tenantiaid? Rydym yn ffocysu ar gefnogi chi i gael y swydd gywir i chi, a gallwn helpu gyda phob agwedd gan gynnwys:

  • Dod o hyd i waith – cymorth gyda chwilio am swyddi, ceisiadau, CVau, paratoi ar gyfer cyfweliadau;
  • Gwirfoddoli, lleoliadau gwaith a phrentisiaethau;
  • Hyfforddiant – cymorth i ddod o hyd i gyrsiau, talu ffioedd hyfforddi, gwneud cais i goleg neu brifysgol, a gwneud cais am grantiau;
  • Cymorth yn y gwaith – help i gynnal cyflogaeth, cael dyrchafiad neu ddod o hyd i ail swydd.

Angen cymorth cyflogaeth? Cysylltwch â ni heddiw! 0303 040 1998 neu ymholiadau@newydd.co.uk.

Help Shape Renting In Wales

Mae 5ed Arolwg Tenant Pwls Tenantiaid blynyddol TPAS Cymru nawr yn fyw!

Mae’r arolwg hwn ar gyfer pob tenant yng Nghymru, gyda chwestiynau am eich cartref a’ch cymuned. Mae TPAS Cymru eisiau clywed gennych chi am bethau sy’n effeithio arnoch fwyaf.

Ac i ddiolch i chi am gymryd rhan, gallwch gael eich cynnwys mewn raffl am daleb gwerth £25 i’w defnyddio mewn sawl siop.

Cymerwch yr arolwg yma: Yn galw ar bawb sy’n rhentu yng Nghymru

Wythnos Siarad Am Arian

Nododd ddechrau mis Tachwedd Wythnos Siarad am Arian – cyfle i siarad yn agored am faterion ariannol. Mae astudiaethau’n dangos bod siarad am arian yn arwain at reoli cyllid gwell a llai o straen.

Rydym yn gwybod gall fod yn anodd dechrau’r sgwrs, ond mae ein Tîm Cynhwysiant Ariannol yma i helpu gyda chymorth ar ddyledion, budd-daliadau, gostyngiadau biliau, a mwy.

Cysylltwch heddiw! E-bostiwch ni at financialinclusion@Newydd.co.uk.

Ydych Chi Wedi’i Diogelu Eich Eiddo Gydag Yswiriaint EiddoCartref?

Nid yw Newydd yn diogelu eich eiddo fel rhan o’ch cytundeb rhentu. Mae’n syniad da ystyried beth fyddai polisi yswiriant cynnwys cartref yn ei gwmpasu er mwyn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus am a oes ei angen arnoch.

Ac mis yma, bydd prynu polisi yswiriant cynnwys gydag My Home yn sicrhau lle mewn raffl i ennill taleb Amazon gwerth £20. 

Cliciwch yma i ddarganfod mwy.

Wythnos Ewch Ar-lein

Yr Wythnos Ewch Ar-lein hon, rydym yn tynnu sylw at y perygl o sgamiau a’r arwyddion rhybudd i gadw llygad amdanynt. A fyddech chi’n gwybod beth i’w wneud pe byddech yn derbyn neges destun amheus? 

Cliciwch yma i ddarganfod mwy.


Newyddion diweddaraf