Posted 01.10.2025

Eich Cylchlythyr In Focus Mis Medi

Helo, fi yw Tracy, eich Swyddog Cyfranogiad.

Croeso i’ch In Focus mis Medi – mae’r rhifyn hyn oll am rent a thaliadau gwasanaeth. Mae yna erthyglau am yr holiadur fforddiadwyedd blynyddol, adolygiad Tîm Craffu Cadarn ar daliadau gwasanaeth, sesiynau ‘Siarad Yn Blaen’ y Tîm Craffu, cwestiwn y mis, a’r adroddiad TPAS Cymru ddiweddaraf ar rent a fforddiadwyedd.

Os hoffech gyfrannu neu os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â chyfranogaeth tenantiaid – cysylltwch gyda Tracy.James@newydd.co.uk.

CWBLHEWCH EIN HOLIADUR AM GYFLE I ENNILL TALEB £50! EICH CYLFE I GAEL EICH DWEUD AR RENT A THALIADAU GWASANAETH YN DOD YN FUAN

Pob blwyddyn, rydyn yn ymgynghori â’n holl denantiaid ar y fforddiadwyedd a gwerth am arian o’ch rhent a thaliadau gwasanaethau. Byddwn unwaith eto’n danfon holiadur i bawb i gwblhau ar 3 Hydref ac mae 10 cyfle i ennill taleb £50. Byddwn yn ei werthfawrogi’n fawr os gymerwch ychydig o funudau i gwblhau’r holiadur. Mae’ch mewnbwn yn hollbwysig am ei fod yn galluogi ni i wella’r gwasanaethau darparwn i chi.

Yn y cyfamser, gallwch ddarganfod mwy am rent a thaliadau gwasanaeth yma a sut rydyn yn gwario eich rhent yma.

Nodwch dydy Newydd ddim yn darparu yswiriant cynnwys fel rhan o’ch cytundeb – gallwch ddarganfod fwy ar yswiriant cynnwys cartref yma

ADOLYGIAD CYNTAF Y TÎM CRAFFU

Cwblhaodd eich Tîm Craffu eu hadroddiad cyntaf ar daliadau gwasanaeth yn ddiweddar. Cyfarfodd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd o’r Tîm Craffu â rheolwyr i drafod a chytuno awgrymiadau’r Tîm am welliannau. Dyma ychydig o’r prif awgrymiadau a gytunon nhw ar:

  • Sicrhau bod tenantiaid yn ymwneud â thendro cytundebau, penderfyniadau am sut caiff ariannu buddiannau cymunedol eu dyrannu, a’r monitro o safonau gwasanaeth;
  • Adolygu darpariaethau storfeydd biniau ar draws y stoc tai a gwella arwyddion lle’n bosib a’n hyfyw yn ariannol;
  • Rhedeg cynllun marchnata ar daflu sbwriel ac ailgylchu, ac esbonio pa gamau gellir gweithredu os na waredir yn gyfrifol;
  • Gweithio mewn partneriaeth gyda Thimau Rheoli Gwastraff awdurdodau lleol, Cadwch Gymru’n Daclus, a Thaclo Tipio Cymru lle’n briodol;
  • Safoni’r dull o lanhau cymunol a chynnal tiroedd a chymryd lluniau cyn ac ar ôl;
  • Sicrhau monitro rheolaidd a chyson o ddarpariaeth a safon gwasanaeth;
  • Rhedeg ymgyrch marchnata yn esbonio beth yw taliadau gwasanaeth, sut gyfrifir nhw, a pha rhai a gynhwysir dan Fuddiant Tai a Chredyd Cynhwysol;
  • Gwella’r llythyrau rhent a thaliadau gwasanaeth blynyddol i sicrhau dealla thenantiaid beth gawn am eu harian a darparu manylion am amlder y gwasanaethau;
  • Amlygu costau eitemau gwasanaethau a chodir tal amdanynt mewn datblygiadau tai newydd pan yn bosib;
  • Gwella cynnwys y gwefan i wella dealltwriaeth o rent a thaliadau gwasanaeth a chynnwys fideo eglurhaol.

FFORMATIAU CRAFFU TENANTIAID Y DYFODOL

Wrth edrych i’r dyfodol, rydym yn newid y ffordd ymgymerwn â chraffu tenantiaid. Rhaid i ni sicrhau ein bod yn cydymffurfio nid yn unig gyda safonau rheoleiddiol LlywCymru ond hefyd ein gweledigaeth ac amcanion corfforaethol wrth sicrhau bod ein cwsmeriaid â llais ym mhob ardal o’n gwasanaethau.

Y cynllun newydd yw i rheolwyr gael sesiynau ar-lein ‘Siarad Yn Blaen’ amserol yn fisol gyda Thîm Craffu Cadarn i siarad yn agored am faes penodol o wasanaeth sydd angen gwella er mwyn cyrraedd gofynion tenantiaid yn well.

Bydd y fformat craffu newydd yn galluogi ni i:

  • Ei wneud yn haws i’r holl reolwyr i weithio gyda thenantiaid ar wella gwasanaethau ar draws y busnes;
  • Bod yn fwy rhagweithiol a chyflawni canlyniadau cyflymach, mwy arwyddocaol a dylanwadol;
  • Cynyddu agoredrwydd, tryloywder, ac atebolrwydd, a:
  • Chryfhau ymhellach llais tenantiaid gan gadw pethau’n ffres a chynyddu boddhad tenantiaid gyda’r broses craffu.

YOUR VOICE MATTERS

Byddwn yn fuan yn lansio ‘cwestiwn y mis’ i alluogi ni gael mewnwelediad cwsmeriaid gwerthfawr i’n helpu i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am wasanaethau y dyfodol a sicrhau ein bod yn cwrdd â gofynion cwsmeriaid. 

Cadwch lygaid am e-bost yn gofyn chi i rannu’ch barn  ar bwnc llosg trwy gwblhau holiadur byr. Byddwn hefyd yn rhannu cwestiwn y mis yn eich cylchlythyr misol. Bydd pawb sy’n ymateb hefyd yn cystadlu am daleb £50.

MAE'R CANLYNIADAU YMA

Mae adroddiad 2025 Pwls Tenantiaid TPAS Cymru ar fforddiadwyedd rhent nawr yn fyw! I ddarganfod mwy am beth mae tenantiaid ledled Cymru yn dweud am eu rhent a thaliadau gwasanaeth cliciwch yma.

Newyddion diweddaraf