Diweddariad ar ein partneriaeth gyda Chymdeithas Tai Cadwyn
Mae’r bartneriaeth yn symud ymlaen yn dda, ac rydym ar fin croesawu Cymdeithas Tai Cadwyn i Grŵp Newydd yn hydref 2024.
Ddydd Mercher yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cytunodd ein Haelodau Cyfrannol i newid enw ein Grŵp o Grŵp Newydd i Grŵp Tai Cadarn i baratoi ar gyfer y bartneriaeth arfaethedig gyda Chymdeithas Tai Cadwyn yn yr Hydref. Bydd enw’r landlord yn aros fel Newydd Housing Association Ltd.
Yn ystod y cyfnod hwn bydd Jason Wroe yn parhau fel Prif Weithredwr y Grŵp. Mae'n gweithio gyda Deb Austin, Cadeirydd Bwrdd Cymdeithas Tai Newydd, a Frances O'Brien, Cadeirydd Bwrdd Cymdeithas Tai Cadwyn i ddatblygu'r bartneriaeth.
Pwy yw Cymdeithas Tai Newydd?
Mae gan Gymdeithas Tai Newydd fwy na 3,000 o gartrefi ar draws canolbarth a de Cymru. Ceir rhagor o fanylion ar wefan Newydd www.newydd.co.uk
Pwy yw Cymdeithas Tai Cadwyn?
Cymdeithas dai yw Cadwyn a sefydlwyd dros 50 mlynedd yn ôl. Mae'n rheoli tua 2000 o gartrefi ar draws Caerdydd a'r cyffiniau. Am fwy o fanylion ewch i'r wefan www.cadwyn.co.uk
Beth fyddai hyn yn ei olygu i chi?
Ychydig iawn o newid fyddai i chi yn ymarferol. Ni fyddai unrhyw drosglwyddo perchnogaeth eich cartref nac unrhyw newid i delerau eich tenantiaeth o ganlyniad i Cadwyn yn dod yn aelod o Grŵp Cadarn.
Bydd eich landlord a'r holl wasanaethau a gewch yn aros yr un fath. Hoffem sicrhau ein cwsmeriaid a’n preswylwyr y bydd ein gwasanaethau’n parhau fel arfer.
Bydd y ffordd y caiff eich rhent ei osod yn aros yr un fath ac yn parhau i fod yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Pam ydym ni'n gwneud hyn?
Gall y ddwy gymdeithas tai rannu costau, arbenigedd a bod yn fwy effeithlon, gan arwain at well gwerth am arian y gellir ei ddefnyddio i wella'r gwasanaethau a gewch.
I gyfuno cryfderau, timau ac arbenigedd pob sefydliad i hybu ein gwasanaeth cwsmeriaid cyffredinol i chi.
I barhau i fuddsoddi mewn datblygu a gwella ein gwasanaeth atgyweirio eiddo.
Byddwch yn gallu cael mynediad at fentrau ychwanegol megis ailgylchu dodrefn, cyflogaeth a chymorth digidol.
Bydd mwy o gyfleoedd i chi gymryd rhan yn yr hyn a wnawn.
Rydyn ni eisiau rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau i ni. Mae sawl ffordd o gysylltu â ni:
E-bost: partnership@newydd.co.uk
Ffôn: 0303 040 1998
Neges destun: 07422 128780