Newyddion: Eich Cylchlythyr Mis Chwefror
Croeso i Newyddion. Dyma gipolwg ar beth gallwch ddisgwyl yn y rhifyn yma:
Cwestiwn Y Mis - Atebwch Am Gyfle I Ennill Taleb £25
- Cyfleoedd Cyflogaeth I Breswylwyr A Ryddhawyd Yn Ddiweddar O'r Carchar
- Ni'n Recriwtio!
- Sylweddoli Eich Potensial
- Lleswyl 2026
Cwestiwn Y Mis - Atebwch Am Gyfle I Ennill Taleb £25
Diolch i bawb a atebodd Cwestiynau’r Mis cyntaf. Derbynion ni 95 o ymatebion ar draws Cadarn, a llongyfarchiadau i John o Gaerdydd a Dianne o Llandrindod a enillodd ein raffl £25 am gymryd rhan.
Mae’r canlyniadau’n wych!
- 94% o ymatebwyr yn dweud eu bod yn gwybod pwy i gysylltu gyda os oes angen help arnynt gyda rhywbeth yn ymwneud â’u cartref.
- 98% yn dweud eu bod yn gwybod sut i gysylltu â ni.
- A 60% yn dal i lynu at eu addunedau Blwyddyn Newydd!
Rydyn ni wrth ein bodd yn clywed hyn — a dyma nodyn atgoffa cyflym o’r holl ffyrdd o gysylltu â ni: -
Sut i Gysylltu â Ni
Ffôn: 0303 040 1998
Oriau ffonio Gwasanaethau Cwsmeriaid:
- Llun–Iau, 8:30am–10am: Atgyweiriadau brys neu ganslo apwyntiadau yn unig
- Llun–Iau, 10am–4pm: Pob ymholiad nad yw’n frys
- Dydd Gwener, 10am–3pm: Pob ymholiad nad yw’n frys
Cyfrif MyNewydd: Gwiriwch eich balans rhent, gwnewch daliadau, neu gofrestrwch gais am atgyweiriad ar-lein. Cofrestru neu fewngofnodi: www.mynewydd.co.uk
E-bost: ymholiadau@newydd.co.uk
Post:
Cymdeithas Tai Newydd,
5 Village Way,
Tongwynlais,
CF15 7NE
A Chwestiynau’r Mis Nesaf…
Unwaith eto, gallwch ennill tocyn £25 drwy ateb ein cwestiynau byr. Y mis hwn rydyn ni eisiau gwybod:
- Os ydych wedi defnyddio ein gwasanaeth y tu allan i oriau, oeddech chi’n fodlon ar yr amser aros?
- A pha dîm rydych chi’n ei gefnogi yn y 6 Gwlad?
Atebwch Gwestiwn y Mis yma.
Cyfleoedd Cyflogaeth I Breswylwyr A Ryddhawyd Yn Ddiweddar O'r Carchar
Mae Newydd yn gweithio gyda phartneriaid lleol ar wasanaeth newydd i helpu preswylwyr sydd wedi’u rhyddhau o’r carchar yn ddiweddar i ddatblygu bywydau, cyflogaeth, a thenantiaeth sefydlog.
Mae’r cynllun ar agor i unrhyw un sy’n byw mewn cartref Newydd ac sydd:
- Wedi gadael y carchar o fewn y 12 mis diwethaf;
- Ar hyn o bryd yn ddi-waith;
- Ac â phlentyn dibynnol o dan 18 oed.
Drwy’r prosiect hwn, rydym wedi sicrhau swyddi gyda chyflogwr rhagorol yn y sector rheoli gwastraff sy’n ymwneud yn uniongyrchol â datblygu’r Ysbyty Canser Felindre newydd yng Nghaerdydd. Mae’r cwmni’n ymrwymo i gyflogi, hyfforddi a datblygu sgiliau cyfranogwyr gyda’r nod o wneud pob lleoliad gwaith yn barhaol.
Yn ogystal â’r cyfle cyflogaeth, bydd ein partneriaid yn darparu pecyn cynhwysfawr o gymorth, a all gynnwys: • Cyngor ar arian a chyllidebu;
- Cymorth teuluol a lles;
- Cymorth digidol a chyflogadwyedd;
- Ymyriadau wedi’u teilwra i helpu unigolion i gynnal cyflogaeth.
Bydd cyflogaeth yn dechrau ganol Mawrth 2026, felly os oes gennych ddiddordeb i chi neu rywun arall sy’n byw mewn cartref Newydd, e-bostiwch Lee.Dunn@newydd.co.uk cyn gynted â phosibl am ragor o wybodaeth.
Ni'n Recriwtio!

Rydyn ni’n recriwtio ar gyfer rolau ar draws Grŵp Cadarn, gyda Chymdeithasau Tai Cadwyn a Newydd, i gefnogi ein strwythur newydd o fewn Cadarn.
Gyda rolau amrywiol ar draws ystod o dimau, cymerwch olwg i weld os oes unrhyw o rain yn addas i chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod.
Cadwch lygad ar y cylchlythyr misol, ein gwefan, a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol wrth i ni ddarparu gwasanaeth gwell fyth i’n trigolion.
Cliciwch yma i weld ein rhestr o swyddi gwag.
Sylweddoli Eich Potensial

Sylweddoli Eich Potensial yw rhaglen hyfforddi a chyflogaeth rhad ac am ddim Newydd, sy’n gweithio gyda thenantiaid i wneud y mwyaf o’ch incwm ac sy’n gallu helpu gyda phob agwedd, gan gynnwys hyfforddiant, dod o hyd i waith, a chymorth yn y gwaith. Gallwch gael cymorth gan y tîm p’un a ydych yn chwilio am waith neu eisoes mewn gwaith ac yn edrych am incwm neu gyflogaeth amgen.
I gael gwybod mwy neu i gysylltu â’r tîm, anfonwch e-bost at Realiseyourpotential@cadwyn.co.uk.
Lleswyl 2026

Lleswyl yw gŵyl llesiant flaenllaw Daring to Dream, sy’n cyfuno cerddoriaeth fyw a sgyrsiau pwerus i wneud llesiant emosiynol yn weladwy, yn hygyrch ac yn brofiad a rennir.
Gan ffrydio’n fyw ar YouTube, mae Lleswyl yn dod â phobl ynghyd ledled Cymru, yn enwedig y rhai sydd methu mynychu digwyddiadau byw oherwydd salwch.
Cliciwch yma i ymuno ar ddydd Gwener, 20 Chwefror o 7pm am gerddoriaeth wych, sgyrsiau go iawn gyda phobl sy’n byw gyda salwch, a chyfle i gysylltu ac i deimlo’n llai unig.



