Cyfleoedd Cyflogaeth I Breswylwyr A Ryddhawyd Yn Ddiweddar O'r Carchar

Mae Newydd yn gweithio gyda phartneriaid lleol ar wasanaeth newydd i helpu preswylwyr sydd wedi’u rhyddhau o’r carchar yn ddiweddar i ddatblygu bywydau, cyflogaeth, a thenantiaeth sefydlog.
Mae’r cynllun ar agor i unrhyw un sy’n byw mewn cartref Newydd ac sydd:
- Wedi gadael y carchar o fewn y 12 mis diwethaf;
- Ar hyn o bryd yn ddi-waith;
- Ac â phlentyn dibynnol o dan 18 oed.
Drwy’r prosiect hwn, rydym wedi sicrhau swyddi gyda chyflogwr rhagorol yn y sector rheoli gwastraff sy’n ymwneud yn uniongyrchol â datblygu’r Ysbyty Canser Felindre newydd yng Nghaerdydd. Mae’r cwmni’n ymrwymo i gyflogi, hyfforddi a datblygu sgiliau cyfranogwyr gyda’r nod o wneud pob lleoliad gwaith yn barhaol.
Yn ogystal â’r cyfle cyflogaeth, bydd ein partneriaid yn darparu pecyn cynhwysfawr o gymorth, a all gynnwys: • Cyngor ar arian a chyllidebu;
- Cymorth teuluol a lles;
- Cymorth digidol a chyflogadwyedd;
- Ymyriadau wedi’u teilwra i helpu unigolion i gynnal cyflogaeth.
Bydd cyflogaeth yn dechrau ganol Mawrth 2026, felly os oes gennych ddiddordeb i chi neu rywun arall sy’n byw mewn cartref Newydd, e-bostiwch Lee.Dunn@newydd.co.uk cyn gynted â phosibl am ragor o wybodaeth.

