Cefnogi pobl ifanc difreintiedig ar Fferm Ymddiriedolaeth Amelia
Drwy ein Cronfa Budd i’r Gymuned, rydym wedi cyfrannu £750 i Fferm Ymddiriedolaeth Amelia, elusen ger Y Barri sy’n cefnogi pobl ifanc difreintiedig.
Roedd hyn yn bosib oherwydd ein partneriaeth gyda Cartrefi Ltd, contractwyr a gyflogwyd i ail-ddatblygu hen dafarn y Windsor yn Y Barri i mewn i 12 o fflatiau fforddiadwy. Cyfrannodd Cartrefi Ltd i’n cronfa, a rhoddwyd yr arian i Fferm Ymddiriedolaeth Amelia.
Dywedodd Karen Turnbull, Cyfarwyddwr Fferm Ymddiriedolaeth Amelia, “Elusen fechan yw Ymddiriedolaeth Amelia sy’n cefnogi pobl ifanc difreintiedig a bregus ledled De Cymru, ac mae’n hafan yng nghefn gwlad i bawb i’w mwynhau. Yn ogystal â bod yn boblogaidd iawn gyda’n hymwelwyr, mae ein hanifeiliaid yn chwarae rôl hanfodol yn ein gwaith sy’n trawsnewid bywydau pobl ifanc. Fel elusen annibynnol nad sy’n derbyn cyllid craidd oddi wrth y llywodraeth, mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio ar holl agweddau ein gwaith, felly gallai’r gefnogaeth rydym wedi derbyn gan Newydd a Cartrefi Ltd ddim bod wedi dod ar amser gwell. Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth!”
Fferm Ymddiriedolaeth Amelia
Mae Fferm Ymddiriedolaeth Amelia yn cefnogi pobl ifanc bregus a difreintiedig drwy eu rhaglen GROW. Mae’r rhaglen yn defnyddio pŵer lles anifeiliaid er mwyn helpu pobl ifanc i ddysgu sgiliau newydd a magu hyder. Mae llawer wedi ei chael hi’n anodd mewn addysg brif ffrwd, ond mae’r fferm yn rhoi cyfle i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder maen nhw eu hangen i lwyddo mewn bywyd. Mae’r anifeiliaid yn chwarae rhan bwysig mewn cefnogi iechyd meddwl a llesiant y bobl ifanc.
Mae Fferm Ymddiriedolaeth Amelia hefyd yn cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu, ac mae hi ar agor i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn. Gweledigaeth yr elusen yw darparu’r gefnogaeth fwyaf addas ar gyfer pobl ddifreintiedig a bregus o fewn sefydliad fferm ofal ac i fod yn hafan addysgiadol yng nghefn gwlad y gall pawb ei mwynhau.
Gwnaeth Fferm Ymddiriedolaeth Amelia gais i’r gronfa er mwyn gwneud gwelliannau i’w corlannau anifeiliaid. Mae’r fferm yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer ymwelwyr, a drwy wella’r corlannau anifeiliaid fe allan nhw ddenu mwy fyth o ymwelwyr o’r gymuned leol. Mae hyn yn creu ymdeimlad o gymuned, gan ddarparu cyfleoedd i bobl i ddod i gysylltiad, dysgu ac ymgysylltu gyda’i gilydd mewn ffordd bositif.
Ein Cronfa Budd i’r Gymuned
Drwy weithio gyda chontractwyr sydd wedi ymrwymo i helpu cymunedau lleol, rydym yn medru cyfrannu tuag at elusennau a chymunedau lleol drwy ein Cronfa Budd i’r Gymuned.
Dywedodd ein Cydgysylltydd Buddion Cymunedol, Jonathan James, “Yma yn Newydd, rydym wedi ymrwymo i gefnogi elusennau a mentrau lleol sy’n gwella llesiant ein cymunedau. Mae ein partneriaeth gyda Fferm Ymddiriedolaeth Amelia a Cartrefi Ltd yn esiampl wych o’r ymrwymiad hwn. Drwy weithio gyda’n gilydd, rydym ni’n credu y gallwn adeiladu cymunedau cryfach a mwy gwydn sy’n dod â budd i bawb.”
Mae’n ychwanegu, “Caiff ceisiadau eu hasesu gan ein panel cyllido, sy’n cynnwys aelodau o staff ledled y sefydliad yn ogystal â’n tenantiaid. Dim ond ffurflen syml yw’r broses gais, a gallwn eich helpu i’w chwblhau felly mae croeso i chi gysylltu â ni os oes arnoch angen cyllid.”
Gallwch gysylltu â Jonathan drwy e-bostio Jonathan.James@newydd.co.uk.