Newyddion: Eich Cylchlythyr mis Mawrth
Croeso i Newyddion. Dyma gipolwg ar yr hyn a welwch yn y cylchlythyr hwn:
- Cofiwch ddiweddaru eich manylion ar Ebrill 1af
- Mudo a Reolir Credyd Cynhwysol
- Ymunwch â’n Grŵp Cynghori Digidol
- Meddwl am ddod â’ch tenantiaeth i ben? Rhowch wybod i ni yn gyntaf!
Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn newid
Cofiwch ddiweddaru eich manylion ar Ebrill 1af
Ydych chi’n hawlio Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol i dalu’ch rhent? Cofiwch ddiweddaru eich manylion ar Ebrill 1af.
Anfonodd Newydd lythyrau Cynnydd Rhent i bob tenant ym mis Ionawr, yn amlinellu newidiadau i rent a thaliadau gwasanaeth yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a fydd yn dod i rym o Ebrill 1af, 2025.
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol i helpu talu eich rhent, bydd angen i chi roi gwybod iddynt am y newid yn eich rhent ar Ebrill 1af 2025. Ni allwch wneud hyn cyn y dyddiad hwn, gan na allwch roi gwybod am newid nes iddo ddigwydd ar Gredyd Cynhwysol.
Os ydych chi’n derbyn budd-dal tai a’i bod yn cael ei dalu’n uniongyrchol i chi, yna bydd angen i chi roi gwybod i’ch cyngor lleol am y newid yn eich rhent. Ymwelwch â’r hyb i wneud hyn gan y bydd angen iddynt weld tystiolaeth o’r rhent newydd.
Os yw eich budd-dal tai yn cael ei thalu yn uniongyrchol i Newydd, yna nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Rydym wedi rhoi gwybod yn barod i’ch cyngor lleol beth yw swm eich rhent newydd.
Os oes angen unrhyw gymorth arnoch gyda’r newid hwn, neu os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch talu eich rhent, mae ein staff yma i helpu. Cysylltwch â ni drwy ffonio 0303 040 1998 neu drwy e-bostio enquiries@newydd.co.uk
Mudo a Reolir Credyd Cynhwysol
Os ydych yn hawlio budd-daliadau etifeddol fel Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Fudd-dal Tai, byddwch yn derbyn hysbysiad i symud i Gredyd Cynhwysol yn fuan. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nes i chi dderbyn i chi dderbyn yr hysbysiad hwn oherwydd gallai hyn achosi oedi wrth dderbyn eich budd-daliadau.
Os hoffech unrhyw gefnogaeth gyda’r newid, mae ein Tîm Cynhwysiant Ariannol yma i helpu gyda chyngor a chefnogaeth am ddim. Cysylltwch â ni heddiw.
Ymunwch â’n Grŵp Cynghori Digidol
Fel rhan o’n Grŵp Cynghori Digidol, bydd tenantiaid yn adolygu ein gwasanaethau cymorth digidol ac yn rhoi adborth ar helpu tenantiaid i gael mynediad i ddyfeisiau, y rhyngrwyd a chymorth i wneud yn siŵr eu bod yn teimlo’n hyderus wrth ddefnyddio Credyd Cynhwysol, FyNewydd, a mwy.
Bydd e-byst yn cael eu hanfon at y grŵp yn wythnosol a’r cyfan a ofynnwn yw ichi ymateb gyda’ch adborth.
Os hoffech gymryd rhan, e-bostiwch: scott.tandy@newydd.co.uk
Meddwl am ddod â’ch tenantiaeth i ben? Rhowch wybod i ni yn gyntaf!
Os ydych yn ystyried symud allan, cysylltwch â ni yn gyntaf cyn dychwelyd eich allweddi. Mae’n bwysig eich bod yn e-bostio neu’n ffonio i drafod y camau nesaf ac osgoi unrhyw broblemau gyda’ch tenantiaeth (contract). Gall anfon allweddi yn ôl heb rybudd arwain at oedi a chymhlethdodau.
Rydyn ni yma i helpu i wneud y broses yn llyfn ac yn syml, felly cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl.
Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn newid
Os yw eich plentyn/plant rhwn 16-18 oed ac yn dechrau addysg bellach ym mis Medi 2025, efallai y byddant yn gymwys i dderbyn LCA.
Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn grant wythnosol o £40 i gefnogi pobl ifanc 16 i 18 oed o aelwydydd cymwys gyda chostau addysg bellach, fel cludiant neu brydau bwyd.
Bydd y trothwy ar gyfer aelwydydd ag un plentyn dibynnol yn newid o £20,817 ac yn cynyddu i £23,400 a fydd aelwydydd sydd â dau neu fwy o blant dibynnol yn newid o £23,077 i £25,974.
Ar gyfer mwy o wybodaeth am y newidiadau hyn, ewch i: https://bit.ly/4aJdJEi