Newyddion: Cylchlythyr Mis Mehefin
Croeso i'r Newyddion. Dyma gipolwg ar beth welwch yn y rhifyn yma o'r cylchlythyr:
- Cael Eich Dweud: Arolwg Bodlonrwydd Tenant Gyda Acuity
- Growing Ambitions 2025: Profiad Gwaith Cyffrous I Bobl 15-18 Mlwydd Oed
- Dywedwch Helo I'ch Swyddogion Newydd yn Nhonysguboriau
Cael Eich Dweud: Arolwg Bodlonrwydd Tenant Gyda Acuity

Mae Newydd yn ymroi i wella’r gwasanaethau rydyn ni’n darparu i’n tenantiaid yn barhaus. Dyma pam rydym yn gweithio gyda chwmni ymchwil marchnad arbenigol Acuity i gynnal ein Arolwg Bodlondeb Tenantiaid.
Beth mae’r arolwg amdano?
Mae hyn yn arolwg bodlondeb cyffredinol sy’n gofyn am eich barn ar eich cartref a’r gwasanaethau a darparwyd gan Newydd. Mae’n cynnwys 12 cwestiwn allweddol a adroddir yn flynyddol i Lywodraeth Cymru.
Sut fydd yn gweithio?
- Bydd Acuity yn cysylltu â thua 75 o denantiaid bob 3 mis dros y ffôn.
- Mae’r arolwg yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau.
- Caiff y galwadau eu gwneud:
- Dydd Llun i Wener: 9yb-8yp
- Dydd Sadwrn: 10yb-6yp
Pa rhif bydd yn fy ngalw?
Os dderbyniwch alwad o 02922 550291, hwnna bydd Acuity.
Mae’r arolwg yn hollol gyfrinachol, a gallwch ei lenwi’n anhysbys.
Mae’ch adborth yn ein helpu i ddeall yr hyn a wnawn yn dda a sut gallwn wella. Trwy gwblhau, rydych yn helpu ni i siapio dyfodol eich gwasanaethau tai. Diolch am eich amser a chefnogaeth!
Dywedwch Helo I'ch Swyddogion Newydd yn Nhonysguboriau

Trigolion Tonysguboriau! Mae yna newid tu ôl y llen a’ch Swyddog Tai newydd yw Kirsty McDonald. Mae Kirsty a Sarah (Swyddog Diogelwch Cymuned) wedi ymrwymo i weithio’n agosach â thrigolion i helpu gwneud ein cymuned yn fwy diogel, cryfach, a mwy cysylltiedig. Fel rhan o’u roliau, byddant yn crwydro’n rheolaidd o gwmpas yr ystâd i ymgysylltu a wynebu gofidion gyda chi’n uniongyrchol. Cadwch olwg ar ein tudalen Facebook am ddyddiadau teithiau cerdded ar y gorwel a diweddariadau – bydd e’n bleser eich gweld!