Newyddion: Eich Cylchlythyr Mis Gorffennaf
Croeso i'r Newyddion. Dyma beth y gallwch ei ddarllen yn rhifyn y mis hwn:
- Larymau Tân
- Gwiriadau Diogelwch Trydanol
- Gweithredu Ar Dipio Anghyfreithlon: Cadw Ein Cymuned yn Lân
- Cwestiwn y Mis – Atebwch am Gyfle i Ennill Taleb £25
- Mae'r Canlyniadau Yma...: Cwestiwn y Mis Mehefin
- Amhariad ar Linell Ffôn y Tîm Profiad Cwsmeriaid
- Hylendid Dŵr
- Ni'n Recriwtio
- 15 Gorffennaf: Sut i Gysylltu â Ni Tra Bydd Ein Tîm Profiad Cwsmeriaid i Ffwrdd
Rhaglen Gosod Larymau Tân Newydd
Er mwyn helpu i gadw chi a'ch teulu'n ddiogel, rydym yn gosod systemau larwm tân LD2 newydd yn ein cartrefi.
Mae system LD2 yn cynnwys larymau mwg mewn cynteddau a glanfeydd, a larwm gwres yn y gegin.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw pan fydd hi'n bryd gosod y larwm newydd yn eich cartref. Fel arfer, mae'r gwaith gosod yn cymryd tua 1 i 1½ awr ac yn cael ei gwblhau mewn un ymweliad. Efallai y bydd rhywfaint o ddrilio am gyfnodau byr, ac efallai y bydd angen diffodd eich trydan am gyfnod byr tra bydd y larymau'n cael eu cysylltu a'u profi.
Rydym yn deall y gall y gwaith hwn achosi rhywfaint o anghyfleustra dros dro, ond mae'n rhan bwysig o helpu i gadw eich cartref yn ddiogel. Byddwn yn gweithio gyda chi i leihau unrhyw amhariad cyn gymaint â phosibl.
__________________________________________________________________________________________
Mae larymau mwg yn hanfodol i helpu i gadw eich teulu a’ch cartref yn ddiogel drwy roi rhybudd cynnar os bydd tân yn eich cartref.
Gwnewch yn siŵr bod eich larymau mwg yn aros yn eu lle bob amser ac nad ydynt wedi’u gorchuddio, eu paentio drostynt, eu datgysylltu nac wedi’u hymyrryd â nhw. Gall tynnu neu ddifrodi larwm mwg peryglu bywydau a gallai hynny fod yn groes i delerau eich cytundeb tenantiaeth.
Er mwyn sicrhau bod eich larwm mwg yn gweithio’n iawn, glanhewch yn ysgafn bob tri i chwe mis gan ddefnyddio sugnwr llwch neu frwsh meddal. Dylech hefyd ei brofi unwaith y mis drwy wasgu’r botwm profi nes bod y larwm yn seinio.
Os yw eich larwm mwg yn bipian, yn ymddangos wedi’i ddifrodi neu os nad yw’n gweithio pan gaiff ei brofi, rhowch wybod i ni fel y gallwn drefnu atgyweiriad neu osod un newydd os oes angen.
Gwiriadau Diogelwch Trydanol
Er mwyn helpu i gadw chi a’ch teulu’n ddiogel, rydym yn cynnal gwiriadau diogelwch trydanol ym mhob un o’n cartrefi o leiaf unwaith bob pum mlynedd.
Mae’r gwiriadau hyn yn helpu i nodi diffygion trydanol, lleihau’r risg o siociau trydanol a thanau, a sicrhau bod system drydanol eich cartref yn cyrraedd safonau diogelwch presennol.
Bydd trydanwr cymwys yn archwilio eitemau fel eich bocs ffiwsiau, socedi, switshis, gwifrau, ffitiadau golau a larymau mwg. Fel arfer, mae’r ymweliad yn cymryd rhwng un a thair awr, yn dibynnu ar faint eich cartref, a bydd angen mynediad i bob ystafell.
Bydd angen diffodd eich trydan am gyfnodau byr tra bydd y profion yn cael eu cynnal yn ddiogel.
Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth yn fuan.
Gweithredu Ar Dipio Sbwriel: Cadw Ein Cymuned yn Lân

Mae 94% o’n cymuned yn ailgylchu’n gyfrifol ac yn helpu i gadw ein cymuned yn lân i bawb ei mwynhau.
Yn anffodus, mae tipio anghyfreithlon a gwaredu gwastraff yn anghywir yn ein storfeydd biniau yn dod yn fwyfwy cyffredin. Peidiwch â bod yn rhan o’r 6% sy’n gwaredu eu gwastraff yn anghyfrifol ac yn creu llanast yn ein cymuned.
Mae tipio anghyfreithlon yn erbyn y gyfraith, a byddwn yn rhoi gwybod i’r heddlu am unrhyw achosion lle gellir adnabod y rhai sy’n gyfrifol. Gall hyn arwain at ddirwyon sylweddol a chyhuddiad troseddol.
Cliciwch ar y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am y trefniadau ailgylchu a gwastraff yn eich ardal.
Ailgylchu a Gwastraff Powys
Ailgylchu a Gwastraff Rhondda Cynon Taf
Ailgylchu a Gwastraff Castell Nedd Port Talbot
Ailgylchu a Gwastraff Bro Morgannwg
Cwestiwn y Mis – Atebwch am Gyfle i Ennill Taleb £25
Dyma gyfle arall i ennill taleb £25 drwy ateb Cwestiwn y Mis ar gyfer Gorffennaf.
Y mis hwn, hoffem wybod:
- Beth yw’r un peth y gallem ei wneud yn well wrth ymdrin â chwynion?
- Ac, pe gallech fwyta un blas hufen iâ yn unig am weddill yr haf, pa flas fyddai hwnnw?
Cliciwch ar y ddolen yma, atebwch gwestiynau’r mis hwn, a nodwch eich manylion cyswllt i gael eich cynnwys yn y raffl am daleb £25.
Mae'r Canlyniadau Yma...: Cwestiwn y Mis Mehefin
Diolch i bawb a atebodd gwestiwn y mis diwethaf: “O ran atgyweiriadau a gwaith wedi’i gynllunio, pa wybodaeth hoffech i ni ei rhannu gyda chi?”
Cawsom 91 o ymatebion a’r tri ateb mwyaf poblogaidd oedd:
- Yr amser cyfartalog i gwblhau atgyweiriad;
- Oedran cyfartalog ceginau, ystafelloedd ymolchi a boeleri cyn cael eu hadnewyddu;
- Canran yr atgyweiriadau a’r gwaith wedi’i gynllunio a gwblhawyd ar amser.
Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gwella ein systemau ac yn dod â phopeth ynghyd mewn un lle, a fydd yn ein helpu i fonitro ein perfformiad yn fwy cywir.
Rydym hefyd yn gweithio gyda chwmni ymgynghori annibynnol i sicrhau ein bod yn mesur y pethau sydd bwysicaf i chi ac yn bodloni safonau cydnabyddedig ar draws y sector. Bydd hyn yn ein helpu i nodi meysydd i’w gwella a sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth atgyweirio dibynadwy o ansawdd uchel. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn dechrau rhannu’r wybodaeth yr oeddech wedi dweud wrthym eich bod am ei gweld.
A’r enillwyr yw… llongyfarchiadau mawr i Mark o’r Barri a Cleo o Gaerdydd ar ennill taleb £25 yn raffl y mis diwethaf. Cofiwch ateb cwestiwn y mis hwn uchod am eich cyfle i ennill y mis hwn.
__________________________________________________________________________________________
Ym mis Mai, fe ofynnom: “Beth allwn ni ei wneud i’w gwneud yn haws i chi adael i ni ddod i mewn i’ch cartref ar gyfer gwiriadau diogelwch, fel gwiriadau nwy neu drydan?”
Fe wnaethoch ddweud wrthym fod gwybod pryd y byddwn yn cyrraedd ac hefyd derbyn nodiadau atgoffa yn bwysig iawn. Ar gyfer apwyntiadau gyda’n timau mewnol, rydym eisoes yn cynnig dewis o slotiau amser (bore, prynhawn, drwy’r dydd neu slot rhediad ysgol), ynghyd â negeseuon atgoffa a diweddariadau pan fydd eich gweithiwr ar ei ffordd. Lle bo’n bosibl, gallwn hefyd gynnig apwyntiadau mwy hyblyg, gan gynnwys gyda’r nos neu ar benwythnosau mewn rhai amgylchiadau.
Rydym yn gwybod y gallwn wella ein cyfathrebu o hyd. Rydym yn adolygu sut rydym yn rhoi rhybudd am apwyntiadau, sut rydym yn eich diweddaru os bydd unrhyw beth yn newid, a pha mor hawdd yw hi i aildrefnu ymweliadau. Wrth i ni ddod â mwy o wasanaethau yn fewnol, byddwn yn gallu cynnig cyfathrebu mwy cyson, gwybodaeth gliriach am bwy fydd yn mynychu, a gwasanaeth mwy dibynadwy yn gyffredinol.
Amhariad ar Linell Ffôn y Tîm Profiad Cwsmeriaid
Rydym ar hyn o bryd yn profi problem ysbeidiol gyda’n system ffôn, sy’n golygu nad yw rhai galwadau’n cyrraedd ein Tîm Profiad Cwsmeriaid fel y dylent. Mae ein darparwr ffôn yn gweithio i ddatrys y broblem cyn gynted â phosibl, ac rydym wedi rhoi datrysiad dros dro ar waith i leihau unrhyw amhariad. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a diolch i chi am eich amynedd tra bo’r broblem yn cael ei datrys.
Rydym yn derbyn nifer uchel o ymholiadau ar hyn o bryd, felly gall gymryd ychydig yn hirach nag arfer i ni ymateb. Os oes angen i chi roi gwybod am argyfwng, parhewch i’n ffonio fel arfer.
Oherwydd y cynnydd yn nifer y galwadau, efallai y bydd yn rhaid i chi aros am gyfnod byr, felly arhoswch ar y llinell a byddwn yn ateb eich galwad cyn gynted â phosibl. Diolch am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.
Hylendid Dŵr
Yn mynd ar wyliau dros yr haf? Os felly, mwynhewch! Ond cofiwch redeg eich tapiau am ychydig funudau pan fyddwch yn dychwelyd adref er mwyn lleihau’r risg o facteria legionella niweidiol. Gall legionella gronni mewn pibellau sydd heb gael eu defnyddio ac achosi math difrifol o niwmonia.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Ni'n Recriwtio
Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer nifer o rolau cyffrous ar draws Grŵp Cadarn. A yw un o’r swyddi hyn yn apelio atoch chi, neu at rywun rydych yn ei adnabod? Cliciwch ar deitlau’r swyddi isod am ragor o wybodaeth.
Dyddiad Cau: 1 Gorffennaf
Cyflog: £34,580–£36,400
Dyddiad Cau: 5 Gorffennaf
Cyflog: £27,976
Cyflog: £31,069–£32,704
Dyddiad Cau: 5 Gorffennaf
15 Gorffennaf: Sut i Gysylltu â Ni Tra Bydd Ein Tîm Profiad Cwsmeriaid i Ffwrdd
Ni fydd ein Tîm Profiad Cwsmeriaid ar gael ddydd Mercher 15 Gorffennaf. Ond paid â phoeni! Rydym yn dal yma i’ch helpu os bydd argyfwng.Ar y diwrnod hwn, os bydd mater brys yn codi na all aros, bydd ein llinellau ffôn arferol yn eich ailgyfeirio at ein contractwr tu allan i oriau Delta, neu gallwch gysylltu â nhw drwy gwblhau’r ffurflen yn y ddolen isod.
Fel arall, os nad yw’n argyfwng, gadewch e-bost i ni ar ymholiadau@cadarn.o.uk a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.
Cysylltwch â Delta drwy e-bost tu allan i oriau yma.








