Posted 19.08.2025

Newyddion: Eich Cylchlythyr Mis Awst

Croeso i Newyddion. Dyma gipolwg ar beth ddarllenwch yn y rhifyn yma: 

  1. Grant £50,000 Wedi'i Wobrwyo I Wella Mynediad a Sgiliau Digidol

  2. Aros Yn Ddiogel Yn Ystod Y Prawf Diweddariad Argyfwng Ar Y Gorwel Os Oes Gennych Ffôn Cudd

  3. Lwfans Cynhaliaeth Addysg Yn Newid

  4. Byddwch Yn Wybodus Am Sgamiau

  5. Plant Yn Bwyta Am Lai Haf Yma

Grant £50,000 Wedi'i Wobrwyo I Wella Mynediad a Sgiliau Digidol

Mae’n belser cyhoeddi bydd tenantiaid yn mynd i fuddio o gefnogaeth digidol Newydd diolch i grant o £50,000 wedi’i wobrwyo i Gymdeithasau Tai Cadwyn a newydd trwy raglan Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol Llywodraeth Cymru.

Bydd yr ariannu’n galluogi o leiaf 40 o gartrefi i gael mynediad at ddyfeisiadau digidol hanfodol i bontio’r gwagle cysylltedd a diley eithrio digidol, ac i adeiladu hyder a sgiliau digidol i help dod o hyd i’r ffordd mewn byd mwy a fwy ar-lein.

Bydd mwy o wybodaeth yn dilyn ond os hoffech unrhyw gefnogaeth gyda phob agwedd digidol, cysylltwch â ni trwy glicio isod.

Darllenwch fwy am y grant yma

Cysylltwch yma

Prawf System Rhybuddio Argyfwng Cenedlaethol Sydd Ar Y Gorwel - Sut I Gadw'n Ddiogel Os Oes Gennych Ffôn Cudd

Ar ddydd Sul, 7 Medi, bydd pob ffôn symudol a thabled sy’n gydnaws â 4G a 5G yn profi prawf o System Rhybuddio Argyfwng Llywodraeth y DU. Y newyddion da yw na fydd yn rhaid i chi gymryd unrhyw gamau ar ôl i’r rhybudd ganu ond, hyd yn oed os yw eich ffôn ar dawelwch, bydd eich dyfais yn gwneud sŵn siren uchel, yn dirgrynu, ac yn derbyn neges destun.

Efallai bod gan rai pobl, fel y rhai sy’n profi cam-drin domestig, ffôn cudd yn eu cartref maen nhw am ei gadw’n gudd rhag eu camdriniwr. I gadw’n ddiogel ac optio allan o rybuddion brys ar gyfer eich iPhones a ffonau Android:

- Chwiliwch eich gosodiadau am ‘rhybuddion brys’;

- Diffoddwch ‘rhybuddion difrifol’ a ‘rhybuddion eithafol’.

Darganfyddwch y manylion llawn ar sut i optio allan o’r negeseuon argyfwng yma. Darllenwch Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth y DU ar y prawf yma.


Mae Lwfans Cynhaliaeth Addysg Yn Newid

Os yw eich plentyn/plant rhwn 16-18 oed ac yn dechrau addysg bellach ym mis Medi 2025, efallai y byddant yn gymwys i dderbyn LCA.

Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn grant wythnosol o £40 i gefnogi pobl ifanc 16 i 18 oed o aelwydydd cymwys gyda chostau addysg bellach, fel cludiant neu brydau bwyd.

Bydd y trothwy ar gyfer aelwydydd ag un plentyn dibynnol yn newid o £20,817 ac yn cynyddu i £23,400 a fydd aelwydydd sydd â dau neu fwy o blant dibynnol yn newid o £23,077 i £25,974.

Am fwy o wybodaeth am y newidiadau cliciwch yma


Byddwch Yn Wybodus Am Sgamiau

Mae sawl preswylwr wedi reportio derbyn negeseuon testun yn gofyn iddyn nhw ddarparu eu manylion banc a gwybodaeth preifat i fod yn gymwys am y Taliadau Tanwydd Gaeaf.

Mae Taliadau Tanwydd Gaeaf yn awtomatig. Felly os ydych chi'n cael negeseuon testun am Daliadau Tanwydd Gaeaf mae’n sgam.

Ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau BYTH yn gofyn i chi dalu arian i gael mynediad at unrhyw beth y mae gennych hawl iddo.

Ni fyddant yn gofyn am rif eich cerdyn hir.

Byddant yn dyfarnu budd-daliadau sy'n gysylltiedig â thanwydd yn awtomatig i'r rhai sydd â hawl iddynt.

I ddarganfod mwy am y Taliadau Tanwydd Gaeaf, cliciwch yma

Plant Yn Bwyta Am Lai Yr Haf Hyn

Haf yma, gallwch fwydo’r plant heb deimlo poen yn eich waled. Mae sawl bwyty lleol yn cynnig prydiau am ddim neu am £1 i gadw’r aelodau ifanc yn llawn a hapus. Ble ewch chi gyntaf? Gwelwch y rhestr o fwytai sy’n cymryd rhan yma


Newyddion diweddaraf