Posted 01.07.2024

Newyddion: Eich cylchlythr mis Gorffennaf

Croeso i Newyddion. Dyma gipolwg ar yr hyn a welwch yn y cylchlythyr hwn:

  • Rhaglen Profi Trydanol
  • Pride Cymru
  • Eisteddfod Rhondda Cynon Taf
  • Cofiwch ddod â’ch dull adnabod â llun i bleidleisio
  • Pop-up Cymunedol Newpark, Tonysguboriau
  • Helpu Tenantiaid i Ddefnyddio Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer gyda Datrysiad Digidol Syml


Rhaglen Profi Trydanol

Mae ein hadran gydymffurfio ar hyn o bryd wrthi’n cysylltu â thenantiaid i ofyn am eich cydweithrediad â’n rhaglen profi trydanol.

Mae’n bosib bod rhai ohonoch chi wedi cael prawf ar eich cartref yn barod a byddwn ni’n cysylltu â rhai ohonoch chi yn fuan i drefnu apwyntiad gydag un o’n contractwyr trydanol.

Os byddwch chi’n derbyn llythyr, tecst neu alwad ffôn ynglŷn â hyn, gofynnir ichi drefnu apwyntiad cyn gynted â phosib. Mae hyn yn bwysig er mwyn i ni sicrhau diogelwch yr holl drydan yn eich cartref.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch ein tîm gwasanaethau cwsmeriaid ar 0303 040 1998 neu e-bostiwch compliancecertificates@newydd.co.uk


Pride Cymru

Welsoch chi ni yn Pride Cymru?

Cawson ni amser gwych yn cymryd rhan yn y pared. Ymunon ni â Tai Pawb a chymdeithasau tai eraill yng Nghymru i ddathlu cydraddoldeb ac amrywiaeth a lledaenu’r neges “Dim lle i gasineb yma”.

A oes digwyddiad Pride ar y gweill yn eich ardal chi? Rhowch wybod i ni os hoffech i ni fod yna!

marketing@newydd.co.uk


Eisteddfod Rhondda Cynon Taf

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn digwydd ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd blwyddyn yma o Ddydd Sadwrn 3ydd Awst i Ddydd Sadwrn 10fed Awst yn:

Parc Ynysangharad,
8 Ceridwen Terrace,
Pontypridd,
CF37 4PD

Ymwelwch â’n stondin yn y Maes! Byddwn ni’n ymuno â Cadwyn, Cartrefi Cymunedol Cynon Taf a Trivallis.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr Eisteddfod a sut i gael tocynnau yma.


Cofiwch ddod â’ch dull adnabod â llun i bleidleisio

Rhaid i chi ddod â dull adnabod â llun i bleidleisio ar Ddydd Iau 4ydd Gorffennaf

Mae pleidleiswyr ar draws Cymru yn cael eu hannog i gofio eu dull adnabod pan fyddant yn mynd i’r orsaf bleidleisio Dydd Iau 4ydd Gorffennaf 2024.

Bydd angen i chi ddangos eich dull adnabod â llun mewn gorsafoedd pleidleisio cyn i chi allu derbyn eich papur pleidleisio.  Mae ffurfiau derbyniol o ddull adnabod yn cynnwys pasbort y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Gymanwlad; trwydded yrru’r DU neu’r AEE; rhai pasys teithio rhatach, megis tocyn bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+; a’r Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr am ddim. Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio dull adnabod sydd weddi dod i ben os ydynt yn dal yn adnabyddadwy o’r llun.

Bydd eich dull adnabod yn cael ei wirio gan staff yn yr orsaf bleidleisio. Bydd ardal ar gael yn yr orsaf bleidleisio er mwyn i chi allu dewis dangos eich dull adnabod â llun mewn lle preifat os dymunwch. Ni fydd unrhyw un sy’n cyrraedd yr orsaf bleidleisio heb fath o ddull adnabod derbyniol yn gallu pleidleisio.

I ddod o hyd i’ch gorsaf bleidleisio agosaf, cliciwch yma

-        Ffurfiau Derbyniol o Ddull Adnabod


Pop-up Cymunedol Newpark, Tonysguboriau

Wythnos ddiwethaf, ymwelon ni â Newpark, Tonysguboriau fel rhan o’n digwyddiad pop-up cymunedol.

Siaradodd tîm Newydd â thenantiaid am sut y gallwn eu cefnogi, unrhyw bryderon a allai fod ganddynt ac fe wnaethom hefyd dacluso’r ystâd trwy gasglu sbwriel!

Os wnaethom ni eich colli chi, rhowch alwad i ni i roi gwybod am unrhyw broblemau a allai fod gennych neu cysylltwch â ni am unrhyw gymorth sydd ei angen arnoch.

-        Ffoniwch ni ar 0303 040 1998

-        E-bostiwch ni ar enquiries@newydd.co.uk


Helpu Tenantiaid i Ddefnyddio Pympiau Gwres Ffynhonnell Aer gyda Datrysiad Digidol Syml

Gyda chartrefi newydd yn cael eu hadeiladu gyda phympiau gwres ffynhonnell aer wedi’u gosod, mae’n bwysig fod ein tenantiaid yn ddeall sut i’w defnyddio nhw.

Mae ein Tîm Cynhwysiant Digidol wedi gweithio gyda’n tenantiaid a Mitsubishi Electrical i greu canllawiau fideo digidol ar sut i ddefnyddio’r technolegau newydd.

Mae’r tîm yn helpu ein tenantiaid a’r gymuned ehangach i ennill sgiliau newydd mewn defnyddio cyfrifiaduron a thabledi, a defnyddio gwasanaethau fel siopa ar-lein, chwilio am swydd, cyrchu eich cyfrif Porth y Llywodraeth neu fancio ar-lein. Gallwn hefyd eich helpu i ennill cymwysterau sgiliau cyfrifiadurol.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth, cysylltu â Scott Tandy ar scott.tandy@newydd.co.uk

Newyddion diweddaraf