Posted 20.01.2026

Newyddion: Eich Cylchlythyr Mis Ionawr

Croeso i Newyddion. Dyma gipolwg ar beth gallwch weld yn y cylchlythyr yma:

  1. Diweddariad Datganiad Rhent

  2. Taliadau Gwasnaeth - Beth Sydd Wedi'i Gynnwys A Beth Sydd Ddim

  3. Cyflwyno Cwestiwn Y Mis - Atebwch Am Y Cyfle I Ennill Taleb £25

  4. Ni'n Recriwtio

  5. Cefnogaeth Digidol I Denantiaid Gyda Nam Ar Y Golwg

Diweddariad Datganiad Rhent

Byddwch yn derbyn eich Hysbysiad Codi Rhent drwy’r post yn fuan, a bydd yn nodi’r newidiadau i’ch rhent a’ch tâl gwasanaeth ar gyfer y 12 mis nesaf. Efallai eich bod yn pendroni sut rydym yn cyfrifo unrhyw godiadau, ac rydym wastad am fod yn glir ac yn agored ynghylch unrhyw benderfyniadau sy’n effeithio ar denantiaid. 

Cliciwch ar y ddolen isod i gael gwybod mwy am y sawl ffactor sy’n dylanwadu ar ein penderfyniad, gan gynnwys Trefniaint Rhent Llywodraeth Cymru, fforddiadwyedd, ymgynghoriad ac adborth â phreswylwyr, gwerth am arian, a mwy. 

Os ydych yn ei chael hi’n anodd talu’ch rhent, rydym yma i helpu ac mae ein Timau Cynhwysiant Ariannol ymroddedig yn gallu cynnig cyngor arbenigol. Cysylltwch â ni ar unwaith drwy’r manylion cyswllt yn y ddolen os oes arnoch angen unrhyw gymorth. 

Cliciwch yma i ddarllen y manylion llawn ar sut mae rhent a thaliadau gwasanaeth yn cael eu gosod

Taliadau Gwasnaeth - Beth Sydd Wedi'i Gynnwys A Beth Sydd Ddim

Mae taliadau gwasanaeth yn cwmpasu costau cynnal a chadw ardaloedd cymunedol mewn blociau o fflatiau neu ar ystadau. Mae’r taliadau’n amrywio o gynllun i gynllun ond yn aml maent yn cynnwys gwasanaethau fel cynnal a chadw tiroedd, glanhau, larymau tân a systemau mynediad drws. Rydym yn cyfrifo’r taliadau’n flynyddol i sicrhau eu bod mor gywir â phosibl ac yn adlewyrchu’n deg y gwasanaethau a ddarperir i chi. 

Cliciwch ar y linc isod i wylio ein fideo hollol newydd am daliadau gwasanaeth a darganfod popeth sydd angen i chi wybod am yr hyn sy’n cael ei gynnwys yn y taliadau a sut maent yn cael eu cyfrifo. 

Gwyliwch ein fideo newydd ar daliadau gwasanaeth yma.

Cyflwyno Cwestiwn Y Mis - Atebwch Am Y Cyfle I Ennill Taleb £25

Mae’n 2026! Ac i nodi’r flwyddyn newydd, rydyn ni’n lansio ein nodwedd newydd Cwestiwn Y Mis – gyda’r cyfle i chi ennill taleb £25 bob mis. 

Rydyn ni bob amser eisiau gwybod mwy am eich barn am eich cartref, yn ogystal â chael dod i’ch adnabod ychydig yn well. Bob mis byddwn yn dweud wrthych sut rydyn ni’n gweithredu ar eich adborth i wella ein gwasanaethau i chi. 

Mae’n syml ac yn cymryd llai na 2 funud: 

  1. Cliciwch ar y ddolen ac atebwch gwestiwn cyflym am eich cartref (a chwestiwn dewisol i’n helpu i ddysgu mwy amdanoch chi). 
  2. Rhowch eich cyfeiriad e-bost a llinell gyntaf eich cyfeiriad i gymryd rhan yn ein tynnu enwau. 
  3. Byddwn yn datgelu’r enillydd ac yn egluro sut rydyn ni’n gweithredu ar eich adborth. 

Cliciwch yma i ateb ein Cwestiwn Y Mis.

Ni'n Recriwtio

Rydyn ni’n recriwtio ar gyfer nifer o rolau ar draws Grŵp Cadarn, gyda Chymdeithasau Tai Cadwyn a Newydd, i gefnogi ein strwythur newydd o fewn Cadarn. Gyda rolau amrywiol ar draws ystod o dimau, cymerwch olwg i weld os oes unrhyw o rain yn addas i chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod. 

Cadwch lygad ar y cylchlythyr misol, ein gwefan, a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol wrth i ni ychwanegu mwy o swyddi dros yr wythnosau nesaf er mwyn darparu gwasanaeth gwell fyth i’n trigolion. 

Cliciwch yma i weld ein rhestr o swyddi gwag.

Cyllid Newydd Ar Gyfer Tenantiaid â Nam Ar Eu Golwg a Chyfleoedd Cymorth 


Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Cymdeithasau Tai Cadwyn a Newydd wedi derbyn cyllid i wella cynhwysiant digidol a darparu gwell gymorth i’n tenantiaid â nam ar eu golwg. Nodwch mai rhaglen beilot yw hon ar hyn o bryd, ac rydym yn ffocysu’r cymorth hwn yn benodol at ardaloedd Caerdydd a Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd. 

Mae ein rhaglen yn cynnwys mynediad at ddyfeisiau hanfodol, cysylltedd rhyngrwyd, a thechnoleg gynorthwyol i’ch helpu i lywio’r byd ar-lein yn hyderus. Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn gallu elwa ar y cymorth hwn, gallwch hunan‑gyfeirio drwy gwblhau ffurflen fer ar-lein. Bydd aelod o’n tîm wedyn yn cysylltu â chi i drafod eich ymatebion ac i drefnu lleoliad, dyddiad ac amser addas ar gyfer darparu’r cymorth. 

Cliciwch yma i ddod o hyd i’r ffurflen hunangyfeirio.

Newyddion diweddaraf